Caroline Finn in rehearsal for Folk

Caroline Finn o Gwmni Dawns Cenedlaethol Cymru yn cael ei phenodi i’r swydd newydd Coreograffydd Preswyl

Ym mis Tachwedd, bydd Caroline Finn yn symud o’i swydd fel Cyfarwyddwr Artistig Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru (CDCCymru) i swydd y Coreograffydd Preswyl.

Yn ystod ei hamser gyda’r cwmni, mae Caroline wedi datblygu steil artistig nodweddiadol sydd wedi dod yn sail i waith y cwmni.  Bydd ei swydd newydd yn caniatáu iddi ganolbwyntio mwy ar ei gwaith coreograffi a chreu gwaith newydd a chyffrous gyda dawnswyr CDCCymru.  Bydd hi’n creu o leiaf un gwaith newydd ar gyfer y Cwmni bob blwyddyn.

Ymunodd Caroline â’r Cwmni fel Cyfarwyddwr Artistig ym mis Medi 2015.  Ers hynny, mae hi wedi creu nifer o ddarnau newydd gan gynnwys Folk, a fu ar daith yn y DU ac yn rhyngwladol yn 2016 a chafodd y darn ei berfformio yng Ngŵyl Fringe Caeredin fel rhan o Arddangosfa’r Cyngor Prydeinig.  Hefyd yn 2016, creodd Animatorium, a gafodd ei berfformio am y tro cyntaf yng Ngŵyl y Dyn Gwyrdd 2016.  Yn 2017, creodd The Green House, a oedd yn rhan o Daith Gwanwyn 3 mis CDCCymru o gwmpas y DU gyda Profundis gan Roy Assaf.  Yn fwy diweddar, bu Caroline yn gyfrifol am goreograffu dawns unigol ar gyfer un o’r dawnswyr cyfoes oedd yn cystadlu yn rownd derfynol Cystadleuaeth Dawnsiwr Ifanc y BBC.

Yn ddiweddar, mae Caroline wedi creu Parade, addasiad modern o fale gwreiddiol Ballet Russes, hwn oedd y prif berfformiad yn nigwyddiad P.A.R.A.D.E. CDCCymru a oedd yn rhan o raglen Rwsia ’17 Cymru a berfformiwyd yng Nghanolfan Mileniwm Cymru ac yng nghanolfan Pontio, Bangor, ym mis Hydref 2017.

Ym mis Tachwedd a Rhagfyr, bydd y Cwmni yn perfformio pedwar darn byr, gan gynnwys dau ddarn gan Caroline - Beside Himself ac Animatorium - ar y daith Roots, a fydd yn ymweld â chwe lleoliad ar draws Cymru.

Bydd swydd Cyfarwyddwr Artistig y cwmni yn cael ei hysbysebu yn ddiweddarach eleni.

Dywedodd Caroline Finn ar ôl cyhoeddiad heddiw:  “Rwyf yn hynod falch o’r holl waith rhagorol y mae CDCCymru wedi ei berfformio yng Nghymru, ledled y DU ac yn rhyngwladol yn ystod y ddwy flynedd diwethaf.

“Bydd fy swydd newydd fel Coreograffydd Preswyl y Cwmni yn fy ngalluogi i barhau i ddod â fy syniadau ar gyfer y cwmni yn fyw.  Rwyf yn gyffrous iawn am ddyfodol CDCCymru ac rwyf yn edrych ymlaen at ddod â gwaith newydd cyffrous i gynulleidfaoedd ar draws Cymru a thu hwnt.”

Dywedodd Jane McCloskey, Cadeirydd Bwrdd CDCCymru: “Mae Caroline wedi chwarae rhan allweddol yn esblygiad y Cwmni ers iddi ddod yn Gyfarwyddwr Artistig ym mis Medi 2015. O ganlyniad i’w harddull a’i huchelgais cafwyd cynyrchiadau cofiadwy ar gyfer ein taith; gan wneud darnau bychain ysbrydoledig a berfformiwyd yng Ngŵyl Green Man a Family Dance ac yn fwyaf diweddar gyda’r perfformiad epig graddfa fawr P.A.R.A.D.E. Rydym yn falch y bydd Caroline yn parhau i ddatblygu gwaith newydd cyffrous i ni fel Coreograffydd Preswyl.

Dywedodd Paul Kaynes, Prif Weithredwr CDCCymru:  “Yn ystod ei hamser gyda ni mae Caroline wedi datblygu steil artistig arbennig ar gyfer y Cwmni, ac mae hynny wedi ein rhoi mewn sefyllfa gref ymhlith teithiau dawns yn y DU ac yn rhyngwladol, gan ysbrydoli cynulleidfaoedd a dawnswyr fel ei gilydd.  Rydym yn falch y byddwn yn parhau i weithio gyda Caroline i adeiladu ar ein llwyddiant fel cwmni yn ystod y blynyddoedd nesaf, a byddwn yn parhau i gefnogi ei datblygiad parhaus fel artist o safon byd.”