The Green House, back to audience dancer with leg in the air
CDCCymru yn Cyflwyno

The Green House

gan Caroline Finn

Gwybodaeth ynghylch y cynhyrchiad
45 munud
Canllaw oed: 8+

Mae Caroline Finn yn ein harwain ar daith hiraethus, gan ofyn i ni edrych i mewn i’r Green House. Ar set deledu od, mae'r cymeriadau’n canfod y ffin denau rhwng ffantasi a realiti.

Tîm Creadigol

Set a Dylunio: Joe Fletcher

Cerddoriaeth: A Summer Place (A Summer Place original soundtrack), (Zézé gan Max Steiner; Camino Overture gan Oliver Schroer; (My Sweet Orange Tree original soundtrack)) gan Armand Amar; Les Beautés du Diable (Francois Dompierre) & Posthumous Nocturne in C Sharp Minor No. 20 (Chopin) gan La Pieta and Angele Dubeau; You are my Sunshine gan The Kiboomers; Haust gan Olafur Arnalds; Untitled (Figures) gan Max Richter; Piano Concerto no. 2 in F, Op 101. Andante gan Dmitri Shostakovich; To Tango tis Nefeli gan Haris Alexiou

Dylunio Golau: Joseff Fletcher

Dylunio Gwisgoedd: Gabriella Slade

Gwneuthurwr Gwisgoedd: Eva Ott & Amy Barrett

Coreograffwr

Caroline Finn

Caroline Finn
Adolygiadau

“Mae Green House yn cadarnhau Finn fel un o’r artistiaid mwyaf disglair sy’n gweithio yng Nghymru heddiw”

- Wales Arts Review

“Comedi sefyllfa arddulliedig a swrrealaidd wedi ei gosod yn y chwedegau”

- Arts Scene in Wales

"Daeth fy ysbrydoliaeth gychwynnol ar gyfer The Green House o’r syniad o docio. Rwyf wedi bod yn ymwybodol ers sbel o sut y gallwn fynd drwy gyfnodau lle cawn ein hunain yn 'tocio' ein bywydau – naill ai drwy fynd ati i dorri pethau i ffwrdd yn weithredol neu drwy dderbyn mudiad naturiol y pwysau diangen.

Er bod hyn weithiau’n broses allai ein gadael yn teimlo ar goll, yn unig ac yn agored i niwed, yn sicr y tocio gofalus hyn ar ein bodolaeth yw beth sy’n rhoi’r potensial i ni ffynnu a thyfu mewn gwirionedd. Roeddwn am archwilio’r broses gyda’r dawnswyr - sut/beth y gallwn ei docio, sut mae’n effeithio arnom ni, a beth allwn ni ddatblygu i fod o ganlyniad.

Yn groes i Folk, fy narn blaenorol ar gyfer y cwmni, roeddwn yn awyddus i sefydlu lleoliad eithaf domestig ar gyfer The Green House. Roeddwn hefyd am ddod o hyd i ffordd o adlewyrchu’r profiad o deimlo wedi ymddieithrio dros dro o’n bywyd ein hunain - mwy fel gwyliwr na chyfranogwr gweithredol.

Fe wnaeth Joe Fletcher a minnau gasglu llawer o ysbrydoliaeth gan artistiaid, awduron a gwneuthurwyr ffilmiau eraill, yn enwedig Sandy Skoglund, Francesca Woodman a David Lynch. Y canlyniad yw set deledu comedi swreal ac od y mae’r cymeriadau’n byw ynddo wrth iddyn nhw docio a thyfu. Teimlaf y bydd yr awyrgylch hwn, wedi’i gyfuno gyda natur theatrig y darn wir yn galluogi cynulleidfaoedd i ddod mewn i fy myd a mynd ar daith gyda chymeriadau’r dawnswyr, gan ddarganfod delweddau neu straeon y gallant uniaethu â nhw.”

- Caroline Finn

The Green House Ed screaming silently
Galeri
All dancer sin the green house moving diagonally across the stage
green house set in the background with dancer to the right facing up
2 dancers facing each other one looking straight the other reaching out towards them