Yvette teaching a Dance for Parkinson's class

Sesiynau Blasu Dawns ar gyfer Parkinson’s rhad ac am ddim gyda NDCCymru ac English National Ballet fel rhan o Bod yn Greadigol 2018

  • Sesiwn blasu rhad ac am ddim yn Sefydliad y Glowyr Coed Duon 21 Mawr (10am - 11.11.15am)
  • Sesiwn blasu am ddim yn Nhŷ Dawns Caerdydd 22 Mawrth (2pm-3.15pm)
  • Sesiynau Blasu gydag artistiaid a dawnswyr English National Ballet

Bydd Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru mewn partneriaeth â rhaglen Dawns ar gyfer Parkinson’s English National Ballet yn cynnal cyfres o sesiynau blasu rhad ac am ddim fel rhan o Ŵyl Bod yn Greadigol y DU yn ystod mis Mawrth.

Cynhelir rhaglen Dawns ar gyfer Parkinson’s English National Ballet yn wythnosol yn y Tŷ Dawns ac yn Sefydliad y Glowyr Coed Duon.  Mae Dawns ar gyfer Parkinson’s yn cynnig cyfle unigryw i bobl gyda Parkinson’s yng Nghaerdydd, Casnewydd a’r ardaloedd cyfagos i gymryd rhan mewn dosbarthiadau dawns o ansawdd uchel yn amgylchedd proffesiynol y stiwdio dawns.

Yn seiliedig ar repertoire clasurol a chyfoes English National Ballet, mae’r dosbarthiadau’n ffordd hwyliog ac anffurfiol i gyfranogwyr ddarganfod themâu, coreograffi a cherddoriaeth y sioeau bale. Ar ôl y sesiwn darperir lluniaeth i’r rhai fyddai’n hoffi aros.

Mae wedi’i brofi fod y rhaglen hon yn cefnogi pobl gyda Parkinson’s i ddatblygu hyder a chryfder, wrth liniaru symptomau bob dydd rhai cyfranogwyr dros dro. Mae dosbarthiadau’n fynegiannol, yn greadigol ac yn hyrwyddo teimladau o ryddid o gyfyngiadau corfforol a chymdeithasol dioddef o Parkinson’s.

Fel rhan o’r Ŵyl Bod yn Greadigol, bydd sesiwn blasu Dawns ar gyfer Parkinson’s yn rhad ac am ddim sydd yn agored i bawb. Bydd dawnsiwr English National Ballet, Jennie Harrington yn ymuno â’r sesiwn yng Nghaerdydd ar 22 Mawrth, ynghyd ag aelodau eraill o dîm English National Ballet yn Llundain.

Mae rhaglen Dawns ar gyfer Parkinson’s English National Ballet wedi bod yn rhedeg ers 2008, ac mae Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru wedi bod yn bartneriaid ar y rhaglen ers 2015. Yn 2017 lansiwyd canolfan y Coed Duon yn dilyn llwyddiant y ganolfan gyntaf yng Nghaerdydd.

Dywedodd Fleur Derbyshire-Fox, Cyfarwyddwr Ymgysylltu English National Ballet: "Mae rhaglen Dawns ar gyfer Parkinson’s English National Ballet yn ceisio darparu dosbarthiadau sy’n ddyrchafol a llawen, gan wella’r unigolion yn gorfforol drwy well osgo a symudiad a chydbwysedd gwell, yn ogystal â chynyddu hunan-barch, hyder, hwyliau a lles cyffredinol. Rydym yn falch iawn o fod yn rhan o’r Ŵyl Bod yn Greadigol gyda’n partneriaid yng Nghwmni Dawns Cenedlaethol Cymru ac arddangos y gwaith i gynulleidfa ehangach.” 

Mae Gŵyl Bod yn Greadigol yn dathlu cyfranogiad creadigol o bob math a’r nifer o fanteision iechyd a lles sy’n dod law yn llaw â chymryd rhan i unigolion a chymunedau. Fel rhan o'r ŵyl, gwahoddir grwpiau creadigol a sefydliadau ledled y DU i arddangos eu creadigrwydd a chroesawu pobl newydd i ymuno â nhw o 17 - 25 Mawrth 2018. Mae'n ffordd wych i bobl ddod i wybod sut i fod yn greadigol ar garreg eu drws a rhoi cynnig ar rywbeth gwahanol gyda channoedd o ddigwyddiadau ymarferol ar gael.

Mae lleoedd yn gyfyngedig ym mhob sesiwn. Am ragor o wybodaeth am Dawns ar gyfer Parkinson’s ac i gadw eich lle ar 21 neu 22 Mawrth cysylltwch â Sarah Chew, Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru ar 029 20635600 neu e-bostio sarah@ndcwales.co.uk.