Angharad Jones headshot black and white photo with shoulder length wavy hair

Angharad Jones

Llysgennad Dawns - Yr Wyddgrug

Ar ôl cael ei magu ar arfordir Gogledd Cymru, symudodd Angharad i'r Alban i hyfforddi yn Ballet West mewn ballet clasurol a dawns gyfoes. Wrth hyfforddi fe gafodd brofiad perfformio a theithio gwerthfawr gyda'r cwmni ysgolion, gan deithio o amgylch yr Alban a Tsieina gyda chynyrchiadau Romeo a Juliet a Swan Lake. Roedd Angharad hefyd yn aelod o Ddawns Genedlaethol Ieuenctid Cymru fel myfyriwr o dan gyfarwyddyd Errol White, Theo Clinkard ac Odette Hughes.

 Mae Angharad wedi sefydlu ei hun yng Ngogledd Cymru dros y pum mlynedd ddiwethaf fel artist dawns lawrydd ac wedi gweithio ar brosiectau amrywiol, fel dawnswraig yn ddiweddar gyda Little Light Dance a'r Theatr Ddigidol ar gyfer eu cynhyrchiad o 'The Flying Bendroom' a 'When In Roam' Orphaned Limbs Collective. Mae Angharad hefyd yn gweithio'n rheolaidd fel dawnswraig ac athrawes gyda Vertical Dance Kate Lawrence ac mae hi wedi gweithio gyda Theatr Genedlaethol Cymru yn y gorffennol ar 'Ddawns Ysbrydion', wedi ei goreograffu gan Sarah Williams ac Eddie Ladd.

Mae Angharad hefyd yn angerddol am ddarparu addysg dawns i bobl o bob oedran ac mae'n hwyluso sesiynau dawns greadigol mewn lleoedd amrywiol yn rheolaidd. Mae Angharad wedi dechrau swydd newydd yn ddiweddar yn Theatr Clwyd fel Cyswllt Ymgysylltu Dawns Greadigol. Mae'n edrych ymlaen at ddod â chyfleoedd dawns i bobl Sir y Fflint.