young dancers kneeling down and stretching their arms out infront of them

Artist Ymgysylltu

Deadline Date
03/03/2025 - 10:00

Mae Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru yn awyddus i benodi artist dawns profiadol i gynorthwyo gyda llywio a chefnogi rhaglen gweithgareddau ymgysylltu'r Cwmni.

Deadline Date
03/03/2025 - 10:00

Mae Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru yn awyddus i benodi artist dawns profiadol i gynorthwyo gyda llywio a chefnogi rhaglen gweithgareddau ymgysylltu'r Cwmni.

Bydd yr Artist Ymgysylltu yn gweinyddu, cyflwyno ac arwain yn artistig, y rhaglen Aelodau Cyswllt Ifanc (ein hyfforddiant dawns lefel uchel i’r oedran 13-18), a’n digwyddiad perfformio LANSIO, a bydd yn ffigwr allweddol wrth gefnogi llwybrau datblygu i ddawnswyr ifanc.

Swydd barhaol 2 ddiwrnod yr wythnos (15 awr) hyd at 31 Awst 2025. 3 diwrnod yr wythnos (22.5 awr) o 1af Medi 2025. Yr oriau i gynnwys bron bob dydd Sul o fis Medi - Ebrill.

Rydym yn cydnabod gwerthoedd cadarnhaol amrywiaeth.  Rydym yn hyrwyddo cydraddoldeb ac yn herio gwahaniaethu, a gan ein bod eisiau adlewyrchu'r gymdeithas lle rydym yn byw a gweithio, rydym yn croesawu'n arbennig, geisiadau gan bobl b/Byddar ac anabl ac o’r Mwyafrif Byd-eang.

 

Swydd Artist Ymgysylltu

Yn atebol i: Cyfarwyddwr Artistig a Phrif Weithredwr ar y Cyd

Lleoliad gwaith: Tŷ Dawns

Oriau: 2 ddiwrnod yr wythnos (15 awr) hyd at 31 Awst 2025. 3 diwrnod yr wythnos (22.5 awr) o 1af Medi 2025. Yr oriau i gynnwys bron bob dydd Sul o fis Medi - Ebrill.

Cyflog: £30,000 (y flwyddyn pro rata)

Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau 10am, 3 Mawrth 2025

Ffoto: The End Sends Advance Warning by Jack Philp [Young Associates 2024]

dancers in jewel toned vintage tracksuits lean towards one another under warm lighitng creating a traingle of arms and legs

Dyletswyddau a Chyfrifoldebau

Bwriad y swydd yw rheoli gweinyddiad a chyflwyniad y rhaglen, gan gynnwys;

  • Cyfeiriad Artistig
  • Cynllunio
  • Addysgu
  • Gweinyddiaeth

Cyfeiriad Artistig

  • Gweithio'n agos gyda'r Cyfarwyddwr Artistig i greu rhaglen o weithgareddau wedi'i gwreiddio yng nghynllun cyffredinol a strategol y cwmni
  • Sicrhau bod rhaglen datblygu dawnswyr o safon yn cael ei darparu, ac yn hygyrch i ystod o bobl
  • Goruchwylio recriwtio a dethol ar gyfer LANSIO, digwyddiad blynyddol CDCCymru i ddawnswyr ifanc, cynnal perfformiadau, a churadu’r digwyddiad yn gyffredinol
  • Goruchwylio creu gwaith byr newydd i Aelodau Cyswllt Ifanc LANSIO
  • Gweithredu fel eiriolwr i holl waith CDCCymru gyda dawnswyr ifanc ac ymgysylltu â rhwydweithiau, yng Nghymru a thu hwnt, sy’n cefnogi datblygu gwaith i ddawnswyr ifanc
  • Cefnogi darpariaeth Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth bresennol y cwmni gyda Celfyddydau Ieuenctid Cenedlaethol Cymru a Ballet Cymru.

Cynllunio

  • Datblygu cynllun gweithgaredd ac addysgu cydlynol i Aelodau Cyswllt Ifanc, sy’n cynnig taith ysbrydoledig yn flynyddol i’r dawnswyr ifanc sy’n cymryd rhan
  • Datblygu a chyflwyno rhaglen sy’n cefnogi Iechyd a Llesiant yr Aelodau Cyswllt Ifanc, gan gynnwys iechyd meddwl a chorfforol, a maeth
  • Cysylltu â'r Pennaeth Cynhyrchu er mwyn cyflwyno elfennau technegol prosiectau, gan gynnwys cwblhau Asesiadau Risg a Datganiadau Dull
  • Cysylltu â'r Rheolwr Marchnata i sicrhau bod asedau a gwybodaeth hyrwyddol yn cael eu trosglwyddo ymlaen a'u bod yn hygyrch
  • Cysylltu â Rheolwr y Cwmni i sicrhau bod calendr cynllunio blynyddol y cwmni (Google Calendar) yn fanwl gywir ac yn cael ei gadw'n gyfredol
  • Amserlennu a pharatoi’r broses o glyweliadau blynyddol.

Addysgu

  • Arwain ac addysgu sesiynau wythnosol yr Aelodau Cyswllt Ifanc, yng Nghaerdydd bob dydd Sul
  • Arwain ac addysgu, neu ddarparu trosolwg strategol, ar gyfer gweithdai dwys i ddatblygu dawnswyr ifanc, a gynhelir yng Nghaerdydd a lleoliadau eraill ledled Cymru
  • Arwain gweithdai mewn lleoliadau addysgol fel rhan o amserlen deithio’r cwmni, pan fo angen, er mwyn cefnogi llwybrau datblygu.

Gweinyddiaeth

  • Gweithredu fel y prif bwynt cyswllt ar gyfer yr Aelodau Cyswllt Ifanc a’u rhieni neu warchgeidwaid
  • Rheoli holl dasgau gweinyddol rhaglen yr Aelodau Cyswllt Ifanc, gan gynnwys amserlenni, contractau, adroddiadau, trwyddedu
  • Rheoli’r holl waith gweinyddu ar gyfer digwyddiad perfformio LANSIO. Cysylltu ag artistiaid, y tîm cynhyrchu a chwmnïau perfformio eraill i sicrhau bod y digwyddiad yn rhedeg yn effeithiol a llwyddiannus
  • Gweithio gyda’r Rheolwr Cyffredinol, sicrhau y bodlonir cydymffurfiaeth, bod dogfennau Diogelu yn gyfredol ac yn berthnasol, a bod gwiriadau DBS yn cael eu cynnal yn ôl yr angen
  • Cwblhau hyfforddiant Diogelu perthnasol a dirprwyo ar gyfer y Swyddog Diogelu Dynodedig, fel a drefnwyd
  • Archebu a chontractio hebryngwyr ac unigolion creadigol llawrydd yn ôl yr angen
  • Rheoli cyllidebau perthnasol ac adrodd arnynt
  • Cysylltu â’r tîm Gwasanaethau Ariannol ynghylch taliadau ffioedd, gan sicrhau bod pob taliad yn cael ei dderbyn yn brydlon
  • Paratoi’r holl waith gweinyddu ar gyfer y clyweliadau a phenodi’r Aelodau Cyswllt Ifanc yn flynyddol
  • Sicrhau bod cipio data yn cydymffurfio â deddfwriaeth ac yn cefnogi adrodd am weithgareddau
  • Cefnogi datblygu a chyflwyno ceisiadau am gyllid, sy’n cynnwys gweithgareddau’r Aelodau Cyswllt Ifanc a LANSIO, ac adrodd yn ôl am gynigion llwyddiannus.

Dyletswyddau cyffredinol

  • Cefnogi gweithrediad y Tŷ Dawns o ddydd i ddydd
  • Gweithredu fel esiampl i'r holl gyflogeion o ran ymddygiad proffesiynol, safonau a pholisïau
  • Cydweithio â thimau creadigol a chynhyrchu yn ôl yr angen
  • Chwarae rôl weithredol wrth ddatblygu, hyrwyddo a gweithredu holl bolisïau CDCCymru, gan gynnwys dwyieithrwydd, gwrth-hiliaeth, gwrth-orthrymder, cynrychiolaeth, hygyrchedd, cynaliadwyedd amgylcheddol ac iechyd a diogelwch
  • Mae gan bob aelod o staff gyfrifoldeb i gefnogi amcanion elusennol y cwmni a chefnogi gweithgareddau codi arian, gan gynnwys casglu ac adrodd am ystadegau
  • Dylai pob aelod o staff gydymffurfio â rheoliadau GDPR ynghylch cofnodion rheoli data personol
  • Cyflawni dyletswyddau eraill rhesymol sy'n ddisgwyliedig er mwyn cyflawni'r swydd.

Sut i wneud cais

Os hoffech drafod y cyfle hwn yn fanylach cyn gwneud cais, cysylltwch ag: recruitment@ndcwales.co.uk

 

Two young dancers, one leans forwards, the other backwards over the firsts back - arm stretching upwards

Os hoffech wneud cais gyda sain, fideo neu ffurf sy’n hygyrch i chi, gwnewch hynny, gan gynnwys y pwyntiau isod.

Llenwch y Ffurflen Monitro Cyfleoedd Cyfartal a'i hanfon gyda'ch CV a llythyr eglurhaol (uchafswm o 2 dudalen): recruitment@ndcwales.co.uk

Yn eich llythyr eglurhaol, eglurwch yn fanwl ac yn y drefn a nodwyd yn y pecyn swydd sut rydych yn bodloni bob categori yn adran Hanfodol y Fanyleb Person a nodwch hefyd pam yr hoffech gael eich ystyried ar gyfer y swydd a'r hyn sy'n eich ysgogi.

Yn eich CV rhowch dystiolaeth o'ch sgiliau a phrofiad yn ogystal ag:

•        Enw a manylion cyswllt dau ganolwr proffesiynol/cyflogaeth. (Ni fyddwn yn cysylltu â chanolwyr hyd nes gwahoddir ymgeiswyr i ail gyfweliad)

•        Datganiad bod gennych yr hawl i weithio yn y DU neu angen trwydded gweithio i wneud hynny

•        Llenwch y ffurflen Cyfleoedd Cyfartal, sydd at ddibenion monitro ac sydd ar wahân i'ch cais

Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau 10am, 3 Mawrth 2025

E-bostiwch yma i ofyn cwestiynau

E-bostiwch eich cais yma

Cewch fynediad at Gyfleoedd Cyfartal yma

Diogelu Data

Bydd y wybodaeth a roddwch yn cael ei defnyddio i greu rhestr fer ar gyfer cyfweliadau ac fel sail i'n penderfyniad ynghylch pwy i'w benodi. Bydd eich holl fanylion yn cael eu cadw'n ddiogel, gyda mynediad yn gyfyngedig i'r rhai sy'n ymwneud â'r broses recriwtio yn unig. Bydd eich cais yn cael ei gadw ar ffeil am o leiaf tri mis ar ôl y dyddiad cau a'i ddinistrio dim hwyrach na deuddeg mis ar ôl hynny. Mae data cyfle cyfartal recriwtio hefyd yn cael ei wneud yn ddienw ac yn cael ei ddefnyddio'n fewnol i ganfod ffyrdd o wella ein prosesau a chyrraedd y gronfa ehangaf bosibl o ymgeiswyr. Drwy gyflwyno eich cais i ni, rydych yn rhoi eich caniatâd i'ch data gael ei ddefnyddio yn y modd hwn.

Addewid Recriwtio

Byddwn yn cysylltu â phob ymgeisydd, p’un a ydynt yn cael eu cynnwys ar y rhestr fer ar gyfer cyfweliad ai peidio. Gwahoddir ymgeiswyr anabl sy’n dangos eu bod yn cwrdd â manyleb y person am gyfweliad, ac rydym wedi ymrwymo i fodloni gofynion mynediad; dim ond i chi roi gwybod i ni beth sydd ei angen arnoch chi.

Cydraddoldeb

Nod CDCCymru yw i ddawns fod yn rhan o fywyd pawb, ac mae'n cyflwyno ei waith mewn gwahanol fformatau a chyd-destunau ledled Cymru a ledled y byd.

Credwn y dylai amrywiaeth gael ei hymgorffori'n llawn yn ein diwylliant a'n gwerthoedd cyfundrefnol, ac rydym yn parhau i ehangu amrywiaeth y Cwmni a'i waith.

I'r perwyl hwnnw rydym yn siarad â phobl o ystod o gymunedau ac yn gwrando arnynt, i gyflwyno dealltwriaeth a mewnwelediad, ac i adnabod newidiadau y gallwn eu gwneud. Mae manylion ynghylch y camau yr ydym yn eu cymryd i'w gweld yn ein Cynllun Cydraddoldeb Strategol.

Cyfiawnder Cymdeithasol

Mae cyfiawnder cymdeithasol, cydraddoldeb a thegwch wrth wraidd holl weithgareddau CDCCymru. Rydym yn ymroddedig i sicrhau bod pawb yng Nghymru yn cael cyfle cyfartal i gael mynediad i ddawns. Bydd CDCCymru yn ceisio sicrhau nad oes neb yn cael ei drin yn llai ffafriol oherwydd bod ganddo nodwedd warchodedig. Rydym yn annog ceisiadau yn arbennig gan bobl sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn y sector celfyddydau, a chan y rhai sy’n profi gwahaniaethu oherwydd hil, hunaniaeth rywedd, cyfeiriadedd rhywiol, statws priodasol, hil, crefydd, cenedligrwydd, tarddiad ethnig, anabledd neu oedran. Gellir talu costau teithio a threuliau ac arian gofal plant.