dancers in Osian Meilir's Mabon wear skeleton string vests and dance in a circle, arms raised in celebration

Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru yn penodi Amanda Roberts yn Gyfarwyddwr Gweithredol (ac yn Brif Swyddog Gweithredol ar y Cyd)

Pleser i Gwmni Dawns Cenedlaethol Cymru yw cyhoeddi bod Amanda Roberts wedi’i phenodi’n Gyfarwyddwr Gweithredol amser llawn, parhaol a newydd (a hefyd yn Brif Swyddog Gweithredol ar y Cyd) y cwmni.

Mae Amanda yn meddu ar fwy na 25 mlynedd o brofiad mewn arwain y celfyddydau, cynhyrchu, a datblygu sefydliadol ar draws dawns, theatr, gwyliau a sefydliadau diwylliannol ledled y DU.

Mae Amanda yn hanu o Gymru a threuliodd lawer o’i phlentyndod a’i hieuenctid yng Nghwm Garw, Aberystwyth, a Chaerdydd. Ar hyn o bryd, mae’n byw yn Birmingham a bydd yn adleoli i ymgymryd â’r rôl. Mae ei haddysg yn cynnwys astudio yn Ysgol Gyfun Ynysawdre, Prifysgol Aberystwyth, a Dysgu Oedolion Caerdydd.

Yn ystod ei gyrfa, mae Amanda wedi ysgwyddo amrywiaeth eang o uwch-rolau arwain a chynhyrchu ar draws y sector celfyddydol a diwylliannol, yn cynnwys swyddi gyda Selina Thompson Ltd, Coventry City of Culture Trust, Punch, mac Birmingham, Cyngor Celfyddydau Lloegr a Contact Theatre. Mae ei phrofiad yn cwmpasu arwain, strategaeth ddiwylliannol a datblygu artistiaid, gyda’r cyfan wedi’i seilio ar ymrwymiad cryf i amrywiaeth, ymgysylltu â chymunedau, a chyfrifoldeb amgylcheddol. Hefyd, mae wedi gwasanaethu mewn rolau cynghori a rolau ymddiriedolwr, gan roi iddi ddealltwriaeth eang o lywodraethu ac arweinyddiaeth.

Mae ei gwaith yn mynd ati’n gyson i hyrwyddo creadigrwydd, cynhwysiant ac effaith gymunedol, gan arwain rhaglenni pwysig sy’n cysylltu’r celfyddydau gyda llesiant, cynaliadwyedd a newid cymdeithasol. Bydd profiad helaeth Amanda mewn cynhyrchu ac arweinyddiaeth sefydliadol yn hollbwysig o ran llywio pennod nesaf Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru.

Bydd Amanda yn ymuno â Bakani Pick-Up, Cyfarwyddwr Artistig (a Phrif Swyddog Gweithredol ar y Cyd), a ysgwyddodd ei rôl yn gynharach eleni. Gyda’i gilydd, byddant yn arwain y cwmni ar y cyd yn ystod cyfnod newydd a chyffrous i ddawns yng Nghymru – cyfnod a ddiffinnir gan greadigrwydd beiddgar, cynhwysiant, ac uchelgais cenedlaethol a rhyngwladol.

Wrth sôn am ei phenodiad, dywedodd Amanda:

“Rydw i wrth fy modd o gael ymuno â Chwmni Dawns Cenedlaethol Cymru ar adeg mor dyngedfennol yn ei hanes. Mae’r cwmni yn meddu ar waddol pwerus yn ymwneud ag adrodd hanesion pobl mewn modd beiddgar trwy symud, ac rydw i’n llawn cyffro o gael gweithio ochr yn ochr â Bakani a’r tîm gwych i adeiladu ar y sylfaen honno – gan ymestyn ein cyrhaeddiad, dyfnhau ein cysylltiadau cymunedol a chreu cyfleoedd a fydd yn dathlu creadigrwydd Cymru ar lwyfan byd-eang.”

Dywedodd Bakani Pick-Up, Cyfarwyddwr Artistig (a Phrif Swyddog Gweithredol ar y Cyd):

“Mae penodiad Amanda yn arwydd o gyfnod hynod gyffrous yn hanes y cwmni. Mae hi’n meddu ar doreth o brofiad a dealltwriaeth ddofn o’r modd y gall creadigrwydd ysgogi newid ystyrlon. Gyda’n gilydd, byddwn yn parhau i wthio ffiniau – nid yn unig yn y gwaith a gaiff ei greu gennym, ond o ran y modd y byddwn yn cysylltu gyda chymunedau ac yn cynrychioli Cymru gerbron y byd. Rydw i’n edrych ymlaen yn fawr at ddechrau’r bennod nesaf hon gyda hi.”

Dywedodd Alison, Cadeirydd y Bwrdd:

“Pleser yw croesawu Amanda i Gwmni Dawns Cenedlaethol Cymru. Mae ei phrofiad dwfn ledled y celfyddydau a’i chysylltiad cryf â Chymru yn golygu mai hi yw’r partner delfrydol i weithio ochr yn ochr â Bakani wrth i’r cwmni ddechrau ar ei bennod nesaf. Gyda’i gilydd, byddant yn arwain Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru gyda chreadigrwydd, gweledigaeth ac uniondeb wrth inni barhau i gynyddu ein heffaith a’n dylanwad, gartref ac yn rhyngwladol.”

Ychwanegodd: “Ar ran y Bwrdd a’r cwmni’n gyffredinol, hoffwn hefyd ddiolch o galon i David Watson, a ymunodd â Chwmni Dawns Cenedlaethol Cymru fel Cyfarwyddwr Gweithredol Interim (a Phrif Swyddog Gweithredol ar y Cyd). Mae arweinyddiaeth, ymrwymiad a brwdfrydedd David wedi helpu i gryfhau sylfeini’r cwmni a’i roi ar lwybr clir tuag at ddyfodol newydd beiddgar a chyffrous.”

Bydd Amanda yn dechrau ei rôl yn swyddogol gyda Chwmni Dawns Cenedlaethol Cymru ym mis Ionawr 2026.