Gwneud Gweithgareddau ar gyfer y rheini sydd am symud #DewchiDdawnsio gyda CDCCymru yn ein cartref yn y Tŷ Dawns yng Nghaerdydd neu pan fyddwn ar daith o gwmpas Cymru. Mae dawnsio ar gyfer pawb, gan gynnwys oedolion, ysgolion, teuluoedd, pobl ifanc a rhai dros 50 oed. Cymerwch olwg ar ein diwrnodau blasu, dosbarthiadau Dance for Parkinson’s, Dyddiau Dawns a llawer mwy isod. Os ydych yn awyddus i ddilyn gyrfa yn y byd dawns, ewch i’n tudalen Datblygiad Proffesiynol.
Dosbarthiadau Oedolion: Dawnsio Cyfoes Oherwydd y cyfyngiadau presennol, nid yw ein dosbarthiadau’n cael eu cynnal ar hyn o bryd. Rydym yn dilyn canllawiau Llywodraeth Cymru a’r diwydiant a byddwn yn rhoi unrhyw ddiweddariadau ar ein gwefan a’n cyfryngau cymdeithasol pan fyddwn yn gwneud unrhyw newidiadau. Gwybod fwy
Dosbarthiadau Oedolion: Bale Oherwydd y cyfyngiadau presennol, nid yw ein dosbarthiadau’n cael eu cynnal ar hyn o bryd. Rydym yn dilyn canllawiau Llywodraeth Cymru a’r diwydiant a byddwn yn rhoi unrhyw ddiweddariadau ar ein gwefan a’n cyfryngau cymdeithasol pan fyddwn yn gwneud unrhyw newidiadau. Gwybod fwy
Dawns ar gyfer Parkinson’s 14 Ionawr - 25 Mawrth Mae ein dosbarthiadau Dawnsio ar gyfer Parkinson’s yn hwyliog ac anffurfiol. Profwyd bod dawns yn datblygu hyder a chryfder, wrth leddfu rhai symptomau bob dydd cyfranogwyr. Mae dosbarthiadau yn greadigol ac yn hyrwyddo teimladau o ryddid rhag cyfyngiadau corfforol a chymdeithasol Parkinson’s. Rydym yn hwb Cysylltiedig ar gyfer rhaglen Dance for Parkinson's, English National Ballet. Gwybod fwy
Cydweithio Creadigol Dros y flwyddyn nesaf byddwn yn gweithio mewn partneriaeth ag Ysgol Gynradd Allensbank ac Ysgol Uwchradd Cantonian yng Nghaerdydd i greu ffordd unigryw o weithio i ddatblygu dawns a llythrennedd mewn addysg Gwybod fwy
Dyddiau Dawns Mae Dyddiau Dawns yn gyfle i gymryd rhan a chreu rhai o’r eiliadau sy’n cael eu perfformio gan Gwmni Dawns Cenedlaethol Cymru. Gwybod fwy
Dance to Health Os ydych chi’n berson hŷn sydd wedi cwympo neu sy’n poeni am gwympo, mae Dance to Health yn sesiwn atal cwympiadau llawn hwyl RHAD AC AM DDIM. Gwybod fwy
Rhaglen Partneriaid Am dros ddegawd, mae Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru wedi bod yn meithrin rhai o’r dawnswyr mwyaf talentog ledled Cymru ac yn datblygu eu sgiliau. Gwybod fwy