Gwyliwch Ddosbarth Dawns | National Dance Company Wales
Sketch image from a Watch Dance Class
CDCCymru yn Cyflwyno

Gwyliwch Ddosbarth Dawns

CDCCymru yn agor y drysau i ddosbarth y Cwmni gyda digwyddiad Gwylio Dosbarth y Cwmni.

 

Dewch i cael cip unigryw y tu ôl i’r llen ar y ffordd y mae ein dawnswyr yn paratoi oriau yn unig cyn iddynt lwyfannu sioe.

Medrwch wylio, sgetsio llun, recordio a chreu ffotograff o’r dosbarth bale ynteu ddawns gyfoes, a chael cip ar fywyd Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru.

Profiad perffaith ar gyfer myfyrwyr dawns, artistiaid, ffotograffwyr ac yn wir unrhyw un arall sy’n diddori yn y Cwmni a chael cip y tu ôl i’r llenni. Ehangwch eich portffolio, ymarfer darlunio symud ynteu wylio a meithrin eich diddordeb.

 

Mae’n rhad ac am ddim i fynychu Dosbarth Gwylio’r Cwmni.