Mathew Prichard | National Dance Company Wales
Mathew Prichard

Mathew Prichard

Dawnsiwr

Hyfforddais yn Rambert School for Ballet and Contemporary Dance, lle derbyniais Radd BA Anrhydedd Dosbarth 1af. Yn ystod fy amser yno, perfformiais weithiau gan; Mark Baldwin, Didy Veldman, Mark Bruce a Robert Cohan. Rwyf wedi teithio ledled y DU gyda Chwmni Dawns Rambert, gan berfformio ‘A Linha Curva’, Itzik Galili a ‘The Creation’, Mark Baldwin. Rwyf wedi perfformio gyda Goldfrapp ar ‘Later…With Jools Holland’ ac yng Ngŵyl Glastonbury. Ymunais â Chwmni Dawns Cenedlaethol Cymru yn 2017. Ers hynny rwyf wedi perfformio gweithiau gan Marcos Morau, Mario Bermudez Gil, Roy Assaf a Caroline Finn. Yn 2019, derbyniais Radd Meistr yn y Celfyddydau (MA) mewn Dawns Gyfoes ac ymunais â Marcat Dance, gan berfformio gwaith newydd, ‘Anhelo’. Rwy’n falch o fod yn ôl gyda CDCCymru ar gyfer eu taith ryngwladol i Hong Kong, Siapan a Sbaen.

Galeri
Mathew perfoming in Atalay, back to the camera
Mathew performing in Tundra, led on the floor with knees bent and snow falling down