Moronfoluwa Odimayo | National Dance Company Wales
Folu headshot

Moronfoluwa Odimayo

Dawnswyr

Cyn hyfforddi yn Ysgol Dawns Gyfoes y Gogledd (NSCD), cefais fy magu yn Llundain ble hyfforddais gyda’r cynllun CAT yn The Place, ac roeddwn yn aelod o’r Cwmni Dawns Ieuenctid Cenedlaethol (2013- 2015) dan gyfarwyddiaeth artistig Akram Khan a Sidi Larbi Cherkaoui. Yn ystod fy amser yn NSCD, cefais berfformio gweithiau gan Jamaal Burkma, Gary Clarke a Francessco Scavetta. Ers graddio o’r NSCD yn 2018, rwyf wedi gweithio i amrywiaeth o gwmnïau a choreograffwyr gan gynnwys Michael Keegan-Dolan, Tribe//Dance Company, Paradox Pictures Gavin Coward a Chwmni Dawns Russell Maliphant, ac yn parhau i berfformio yn genedlaethol a rhyngwladol gyda’r cwmni, gan gynnwys cynhyrchiad diweddaraf y cwmni, Silent Lines. Ymunais â Chwmni Dawns Cenedlaethol Cymru yn ystod Gorffennaf 2019 ar gyfer Laboratori a ‘Rygbi: Annwyl i mi / Dear to me’

Galeri
Folu leg in the air
Nikita and Folu