banner for Ble mai Bilaadi
CDCCymru yn Cyflwyno

Plethu/Weave: Ble Mae Bilaadi?

Cerddi Byrion a Ffilm Ddawns

Mae’r bedwaredd fideo ‘Ble Mae Bilaadi?’ gan y bardd Hanan Issa a dawnsiwr CDCCymru Aisha Naamani wedi ei ysbrydoli gan eu hetifeddiaeth gymysg hwy, a’r cysylltiau a datgysylltiad â Chymru. Mae ‘Ble Mae Bilaadi?’ yn rhoi sylw i’r cyfosodiad rhwng bod yn fenyw aml-hil Gwyn / Arab yn byw yng Nghymru. 

Bardd: Hanan Issa

Coreograffwr a dawnsiwr: Aisha Naamani

Ffilmiwyd gan: Joshua Attwood

Ymgynghorydd Ffilm: Jonathan Dunn

Aisha headshot

Aisha Naamani
Cyn hyfforddi yn Ysgol Ddawns Gyfoes Llundain, cafodd ei magu yn Ne Cymru ac roedd yn aelod cyswllt Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru o 2012-2015. Ers symud i Lundain, bu’n perfformio gweithiau gan Richard Alston, Wayne Parsons (Rafael Bonachela), James Cousins a Hofesh Shechter ymysg eraill. Cafodd peth o’i gwaith coreograffig ei ddangos yn The Place Theatre ac roedd yn ysgolor Cronfa Ysgoloriaeth Peggy Hawkins. Ymunodd â CDCCymru fel prentis dawnsiwr yn haf 2018, gan berfformio gweithiau gan Matteo Marfoglia, Mario Bermudez-Gil a Caroline Finn cyn dod yn ddawnsiwr cwmni’r flwyddyn ganlynol.

Headshot Hanan

Hanan Issa
Bardd ac awdur Cymreig-Iracaidd yw Hanan Issa. Hi yw cyd-sylfaenydd cyfres meic agored BAME gyntaf Cymru ‘Where I’m Coming From’. Roedd hi’n un o Awduron wrth eu Gwaith Gŵyl y Gelli 2018-2019. Cyhoeddwyd ei phamffled barddoniaeth cyntaf My Body Can House Two Hearts gan BurningEye Books ym mis Hydref 2019. Mae hi wedi cael sylw ar ITV Cymru a BBC Radio Wales ac wedi gweithio mewn partneriaeth ag Amgueddfa Genedlaethol Cymru, Artes Mundi, Prifysgol Warwick, Fringe Abertawe, Gŵyl StAnza, Wales Arts International a Seren Books. Cyhoeddwyd ei gwaith yn Banat Collective, Hedgehog Press, Wales Arts Review, Sukoon mag, 4 Journal, Poetry Wales, Parthian, Y Stamp, cylchgrawn sister-hood a MuslimGirl.com. Cafodd ei monolog buddugol sylw yn Bush Theatre’s Hijabi Monologues.

“Yr hyn oedd yn ddiddorol am y prosiect hwn oedd bod y ddwy ohonom wedi medru uniaethu ar y sail bod gan y ddwy wlad lle y daw ein hetifeddiaeth, Hanan – Irac, a minnau - Lebanon, hinsawdd wleidyddol sydd ddim yn ein galluogi i dreulio cymaint o amser yno ag yr hoffem. Mae’r rhannau yma ohonom yn gallu gwrthdaro, ac er cymaint yr hoffem fynd i’r llefydd yma, does byth amser addas, a hyd yn oed os yr awn, mae rhywun dan straen ac ar frys o ganlyniad i’r gwrthdaro a’r anhrefn sydd yn rhan annatod o’i hanes. 

“Mae Hanan wedi llwyddo i greu cerdd hyfryd a phwerus; mae hi’n dal hanfod y teimlad o berthyn i’r fan hyn, yn ogystal â’r hiraeth am rywle arall sydd yn hollol wahanol, nad oeddem wedi ei ddeall yn llawn wrth dyfu i fyny, a rhywbeth nad ydym ni o bosib bob tro’n ei ddeall ein hunain.” 

 

Aisha Naamani  

 Ble Mae Bilaadi? (cyfieithiad Cymraeg)
 

Pan glywaf lais metelaidd Khala yn siarad ar y ffôn,

Rwyf eisiau ateb â  ‘زين الحمد الله’

 

ond rwyf wedi llyncu gormod o hadau dant y llew.

Rwy’n poeri cardamom allan.

Beth yw’r gair Arabeg am gardamom?

Ni allaf gofio.

 

Yn euog, rwy’n ateb i mewn i gan tun:

 

‘Rwy’n iawn fodryb’,

a gwylio’r milltiroedd o linyn crynedig yn diflannu i dywyllwch clindarddol.

Y noson honno rwy’n cofio: هیل ydyw

Yr ‘H’, anadliad melys.

 

Mae’r llinyn yn clymu tu mewn i’m brest.

ac mae’n teimlo’n beryglus,

fel pe bawn yn dal gormod:

 

Fel byd yn honni bod yn ddinas

 

Ac felly rwy’n rhedeg. Fy nhraed ar goncrit Caerdydd, fy olion traed yn cerfio cofnod ohonof.

Ond nid yw’r llinyn yn fy mrest byth yn rhoi’r gorau i’w gân:

am dir wedi’i adael – ei phrydferthwch ym mer fy esgyrn.

 

‘Ya Bilaadi’ canai’r llinyn.

 

Rwyf bob amser yn rhoi’r gorau i redeg yn yr un fan.

 

Mae hi yno pan edrychaf tua’r môr.

 

Bythol fel y gedrwydden,

Mae hi’n brasgamu’r gorwel tuag ataf.

 

Mae’r llinyn,

 

wedi gwreiddio yn fy mrest,

yn gefynnu o amgylch ei harddyrnau.

 

Mae’n ddrwg gennyf ei gweld yn gaeth,

gweld sut mae fy hiraeth yn gadael

atgofion blin ar ei chroen.

 

Ond wallahi rwy’n gobeithio na rwygai fyth