Sarah Rogers | National Dance Company Wales
Sarah Rogers

Sarah Rogers

Llysgennad Dawns – Yr Amwythig

Dechreuodd Sarah ar ei hyfforddiant dawns yn New College Telford a Shropshire Academy of Dance, ac yna bu’n gweithio gyda chwmni Blue Eyed Sould Dance Company yn Shrewsbury, cyn symud ymlaen i raddio o Trinity Laban Conservatoire of Music and Dance gydag Anrhydedd BA mewn Theatr Dawns yn 2010. Mae wedi perfformio ar gyfer Rosemary Butcher, Charles Linehan, Kerry Nicholls, Darren Johnston, Will Dorner, Tamsin Fitzgerald (2Faced Dance), The Configur8 Project, Angelina Jandolo Dance a Kitsch n Sync, ac wedi cyflwyno gwaith yn Resolution 2011 fel coreograffydd annibynnol. Yn 2012 fe wnaeth Sarah gwblhau Prentisiaeth gydag Earthfall Dance Company yng Nghaerdydd. Mae Sarah bellach yn byw yng Nghaerdydd ac yn cyfarwyddo ei chwmni theatr dawns proffesiynol ei hun ‘Ransack Dance Company,’ sy’n gweithio gyda dawns, cerddoriaeth a ffilm fyw, ac mae hefyd yn cynhyrchu prosiect hyfforddi artistiaid dawns newydd blynyddol a llwyfan coreograffi o’r enw The Arrive Dance Platform. Ochr yn ochr â’i gwaith cyfarwyddo a pherfformio mae Sarah yn ymarferwr ac addysgwr dawns gymunedol brwdfrydig ac mae wedi cyfarwyddo nifer o grwpiau ieuenctid. Yn y gorffennol mae wedi bod yn Rheolwr Addysg yn 2Faced Dance Company, yn cydlynu ac yn addysgu ar raglen ysgolion a chymuned y cwmni a chyfarwyddo’r 2Faced Youth Company. Ar hyn o bryd, mae Sarah yn addysgu ar gyfer Artis Community gan arwain eu cwmni ieuenctid i fechgyn, a grwpiau dawns ieuenctid cynhwysol, ynghyd ag addysgu rhaglen dawns drefol mewn partneriaeth â’r prosiect Forsythia Youth.