Llysgennad Dawns

Mae CDCCymru’n gweithio gyda nifer o Leoliadau o Flaenoriaeth.
Mae gan Leoliadau o Flaenoriaeth bartneriaeth ymrwymedig gyda CDCCymru, yn defnyddio eu harbenigedd cyfunol i feithrin a chadw cynulleidfaoedd ar gyfer dawns yn yr ardal honno.

Mae gan bob Lleoliad o Flaenoriaeth hefyd Lysgennad Dawns sy'n lleol i'r lleoliad, sy'n adnabod repertoire y cwmni ac sydd wedi cael hyfforddiant arbenigol. Eu rôl yw cefnogi'r cyhoedd i gael mynediad at waith CDCCymru a chadw mewn cysylltiad drwy gydol y flwyddyn â'u cymunedau ledled Cymru.

Mae'r ddarpariaeth yn cael ei llywio gan y dawnsio sydd eisoes yn digwydd yn yr ardaloedd. Mae'r model hwn yn annog cynulleidfaoedd a chyfranogwyr newydd, gan helpu i gynnwys mwy o bobl mewn amrywiaeth o ddawns, gan gynnal y sector dawns yng Nghymru wrth i fwy o bobl ymgysylltu â'r ffurf gelfyddydol.

Ein Lleoliadau o Flaenoriaeth yw:

Cymru

Canolfan y Celfyddydau Taliesin, Abertawe | Pontio, Bangor | Theatr Clwyd, Yr Wyddgru | Theatr yr Hafren, Y Drenewydd | Theatr Brycheiniog, Aberhonddu | Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth

Lloegr

Derby Theatre | Lawrence Batley Theatre, Huddersfield 

Clara Rust

Llysgennad Dawns - Brecon

Mae Clara yn Llysgennad Dawns ar gyfer Aberhonddu
Yvette Wilson - Artist Dawns Cyswllt - De Cymru Helen Woods - Cerddor Cyswllt - De Cymru Angaharad Harrop - Artist Dawns Cyswllt - Gogledd Cymru Helen Wyn Pari - Cerddor Cyswllt - Gogledd Cymru