Nawdd Corfforaethol Fel cwmni cenedlaethol, rydym yn ymfalchïo yn ein brand Cymreig creadigol sy’n cael ei ddathlu ar lwyfannau cenedlaethol a rhyngwladol ledled y byd. Rydym yn gwybod bod pob busnes yn unigryw ac rydym eisiau cydweithio â chi i greu partneriaeth ystyrlon yn seiliedig ar eich anghenion. Gallwn gynnig: • Partneriaeth gorfforaethol unigryw a grëir gyda chi ac ar eich cyfer • Diwrnodau allan a gweithgareddau wedi eu hysbrydoli gan ddawns • Cyfleoedd i noddi prosiectau cymunedol a chyfranogi penodol megis ein rhaglen cymdeithion ieuenctid talentog • Cysylltiad â brand rhyngwladol • Cyfle i fynd y tu ôl i’r llenni a phrofi cydweithrediadau a chynyrchiadau cyffrous CDCCymru Er mwyn ymchwilio i sut all CDCCymru ymgysylltu â’ch cwmni ac ysbrydoli eich staff, cysylltwch â Rebecca, ein Swyddog Datblygu ar rebecca@ndcwales.co.uk neu 029 2063 5614