CDCCymru yn Cyflwyno Clwstwr Ym mis Medi 2019, CDCCymru oedd un o 23 o sefydliadau i dderbyn cyllid gan Clwstwr; rhaglen pum mlynedd i greu gwasanaethau a phrofiadau digidol ar gyfer y sgrin. Mae arbenigwyr dawns a thechnoleg wedi cydweithio gyda CDCCymru i greu a phrofi ffyrdd newydd o wneud profiadau dawns gan ddefnyddio technolegau realiti haenog. Estynnwyd gwahoddiad i bobl brofi a chymryd rhan mewn straeon dawns a oedd yn anelu at newid y berthynas draddodiadol rhwng y perfformiwr a'r gynulleidfa a chysylltu pobl gyda'u corff eu hunain. Archwiliodd ein prosiect Moving Layers y defnydd o realiti estynedig (AR) gyda dawns. Roeddem am wneud prosiect ymchwil a datblygu yn seiliedig ar ddawns a oedd yn edrych ar sut y gallai technolegau realiti estynedig effeithio ar berthnasoedd a ffurfiwyd trwy ddawns. Roeddem yn teimlo y gallai wella profiadau cynulleidfa o ddawns, neu sicrhau profiadau cynulleidfa newydd o ddawns (y berthynas rhwng y gynulleidfa a'r perfformiwr). Roeddem hefyd eisiau archwilio sut y gallai perfformwyr weithio gyda'i gilydd gan ddefnyddio technoleg realiti estynedig (y berthynas rhwng y perfformiwr a'r perfformiwr). Darllen Mwy yn Clwstwr: Clwstwr - Persbectif: Cyfuno technoleg a dawns gyda Moving Layers Paul Kaynes - Defnyddio realiti estynedig mewn dawns i wella profiadau cynulleidfaoedd a pherfformwyr gyda Clwstwr "Yn eithaf annisgwyl, mae'r prosiect wedi arwain at symudiad gwirioneddol ddwys tuag at ddigidol. Rydym bellach yn gweld ac yn deall y potensial ar gyfer datblygu cynulleidfa yn y maes hwn. Rydym yn gweithio gyda chynhyrchydd digidol i ddatblygu ein gwaith mewn ffyrdd eraill sy'n manteisio i’r eithaf ar wahanol ddulliau digidol. Nid wyf yn credu y byddem wedi cyrraedd fan hyn mor gyflym ag rydym, oni bai am y profiad hwn." Paul Kaynes Galeri