Dysgu Darganfod y ffyrdd gwahanol y gallwch DDYSGU am ddawns Os oes gennych ddiddordeb mewn dysgu mwy am ddawns rydym yn cynnig gweithdai, Darganfod Dawns ar gyfer Ysgolion ac adnoddau ar-lein. Am ragor o wybodaeth anfonwch e-bost i sarah@ndcwales.co.uk / 029 2063 5600
Cydweithio Creadigol Dros y flwyddyn nesaf byddwn yn gweithio mewn partneriaeth ag Ysgol Gynradd Allensbank ac Ysgol Uwchradd Cantonian yng Nghaerdydd i greu ffordd unigryw o weithio i ddatblygu dawns a llythrennedd mewn addysg Gwybod fwy
Gweithdai Dawns Mae ein gweithdai dawns yn ddelfrydol ar gyfer pob oedran fel ffordd hwyliog a difyr i ddatblygu hyder, cyfathrebu, creadigrwydd, meddwl yn feirniadol a gwella ymwybyddiaeth ddiwylliannol. Gall ein gweithdai gael eu teilwra at anghenion, galluoedd, oedran a diddordeb eich grwpiau a gellir eu darparu yn eich ysgol neu leoliad o ddewis. Gallwn gynnal gweithdai ar gyfer hyd at 90 munud a’u gwneud yn unigryw ar gyfer anghenion eich grwpiau. Mae ein gweithdy safonol yn cynnwys: Gwybod fwy