Archebu CDCCymru yn Cyflwyno Dosbarthiadau Oedolion: Dawnsio Cyfoes Mae dosbarthiadau yn agored i bawb ac yn cael eu cynnal yn y Tŷ Dawns Oedran 16 + Athro: Jack Philp Dydd Mawrth 7.30pm-8.45pm £6.00 Oherwydd y cyfyngiadau presennol, nid yw ein dosbarthiadau’n cael eu cynnal ar hyn o bryd. Rydym yn dilyn canllawiau Llywodraeth Cymru a’r diwydiant a byddwn yn rhoi unrhyw ddiweddariadau ar ein gwefan a’n cyfryngau cymdeithasol pan fyddwn yn gwneud unrhyw newidiadau. Yn y dosbarth hwn byddwn yn archwilio’r egwyddorion sylfaenol o ddawns gyfoes drwy set o ymarferion a gorffen gydag ymadrodd dawns, i annog a chanfod yr hwyl o symud. Beth i’w wisgo: Dillad cyfforddus y gallwch symud ynddynt; sicrhewch nad yw trowsusau llac yn mynd yn is na’r ffêr. Gellir ei wneud yn draed noeth neu mewn sanau (noder na chaniateir esgidiau ymarfer yn y stiwdio). Beth i ddod gyda chi: Haenau o ddillad i gynhesu ac oeri ynddynt. Erioed wedi bod i’r Tŷ Dawns o’r blaen? Dewch o hyd i’r ffordd yma Cafodd Jack ei hyfforddi yn Trinity Laban Conservatoire of Music and Dance ac mae’n gweithio fel artist, coreograffydd ac athro dawns llawrydd. Mae wedi perfformio gwaith gan goreograffwyr yn cynnwys Matthias Sperling, Anna Williams a Wayne McGregor yn ogystal â chysgodi artistiaid a chwmnïau gwahanol, yn genedlaethol a rhyngwladol, gan gynnwys Henri Oguike, Theatr Dawns yr Alban, Rafael Bonachela a Chwmni Dawns Sydney. Mae Jack yn addysgu dosbarth yn Rubicon Dance ac mae hefyd yn arwain gweithdai ar gyfer myfyrwyr yn Trinity Laban, Prifysgol Kingston a Chwmni Bale Ieuenctid Cenedlaethol Lloegr, yn ogystal â phrosiectau ieuenctid eraill ledled y DU. Yn y gorffennol mae Jack wedi cael ei gefnogi gan Gyngor Celfyddydau Cymru a Chyngor Celfyddydau Lloegr ar gyfer dau ddarn newydd o waith wedi eu creu gyda’i gymdeithas, a sefydlwyd yn 2014. Mae wedi mynd ymlaen i rannu coreograffi mewn lleoliadau cenedlaethol o amgylch y DU gyda chomisiwn diweddar yn cael ei wneud ar gyfer Cwmni Dawns Ieuenctid Sir Fynwy. Gall ein dosbarthiadau fod yn brysur iawn, felly argymhellwn i chi archebu ar-lein ymlaen llaw i sicrhau eich lle. Dogfennau i’w lawrlwytho National Dance Company Wales Terms and Conditions for Evening Classes Telerau ac Amodau Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru ar gyfer Dosbarthiadau Nos Yn digwydd Caerdydd Ty Dawns