Dawnsio Gyda’n Gilydd #KINKids a #KINCommunity Cyfres o wersi dawns ar-lein, gyda ffocws ar wersi creadigol i blant a gwersi i oedolion sydd eisiau gwella eu symudedd. Byddwch hefyd yn gweld dolenni at wersi dawns eraill sydd ar gael ar-lein.
Dawns ar gyfer Parkinson’s 14 Ionawr - 25 Mawrth Mae ein dosbarthiadau Dawnsio ar gyfer Parkinson’s yn hwyliog ac anffurfiol. Profwyd bod dawns yn datblygu hyder a chryfder, wrth leddfu rhai symptomau bob dydd cyfranogwyr. Mae dosbarthiadau yn greadigol ac yn hyrwyddo teimladau o ryddid rhag cyfyngiadau corfforol a chymdeithasol Parkinson’s. Rydym yn hwb Cysylltiedig ar gyfer rhaglen Dance for Parkinson's, English National Ballet. Gwybod fwy
#KinCommunity Dosbarthiadau byr a difyr ar rai o’n hoff ddarnau dawns. Ymunwch â ni ar eich eistedd neu ar eich traed i wella a chynnal symudedd. Addas i oedolion o unrhyw oed neu allu. Gwybod fwy
#KINKids Dosbarthiadau creadigol i blant yn seiliedig ar ddarnau a berfformir gan CDCCymru. Gwybod fwy
BBC in Quarantine Wedi methu ein ffrydiad o BBC Culture in Quarantine dosbarth cyfoes dyddiol, gyda’r athrawes Angela Towler a chyfeiliant byw gan Christopher Benstead. Ymunwch, neu gwyliwch a gweld sut rydym yn parhau i ddawnsio gyda’n gilydd, ar wahân. Gwybod fwy
Ymadroddion mewn Mannau Bach Dysgwch ddilyniant byr gydag ‘Ymadroddion mewn Mannau Bach’, yn seiliedig ar thema y byddem yn ei hanfon ymlaen atoch chi i’w datblygu yn eich ffordd unigryw! Gwybod fwy