Shakeera lying in a green field with her hand towards the sun
CDCCymru yn Cyflwyno

Plethu/Weave: Cyswllt | Datgyswllt 

Cerddi Byrion a Ffilm Ddawns

Mae Cyswllt, Datgyswllt gan y bardd, Elan Grug Muse a'r dawnsiwr, Shakeera Ahmun, yn archwilio ymdeimladau o ymlyniad a datodiad a'r cymhlethdodau o fewn y themâu hyn.

Coreograffwr, Dawnsiwr a Golygwr: Shakeera Ahmun

Bardd: Elan Grug Muse

Shakeera headshot

Shakera Ahmun
Mae Shakeera Ahmun yn artist dawns llawrydd o Gaerdydd. Caiff ei hysbrydoli gan gerddoriaeth a’r arliw rhythmic hwnnw sy’n ei gyrru’n gorfforol ac yn parhau I liwio ac ysbrydoli iaith ei symudiadau. Bu hefyd yn gweithio gyda theatr corfforol yn ddiweddar, a gafodd effaith gadarnhaol sylwedddol ar ei chrefft.

Elan headshot

Elan Grug Muse
Mae Grug Muse yn fardd, golygydd ac ymchwilydd. Mae’n un o sylfaenwyr a golygyddion cylchgrawn Y Stamp ac fe gyhoeddwyd ei chyfrol gyntaf, Ar Ddisberod, gyda Barddas yn 2017. Mae hi’n un o breswylwyr Ulysses Shelter 2020, ac yn ddeilydd Ysgoloriaeth Awdur Llenyddiaeth Cymru 2020. Mae ei gwaith wedi ei gyhoeddi mewn cyhoeddiadau yn cynnwys O’r Pedwar Gwynt, Barddas, Poetry Wales, Panorama: the journal of intelligent travel ac eraill. Roedd yn un o Awduron wrth eu Gwaith Gŵyl y Gelli 2018-19, ac fe enillodd y gadair yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd yn 2013, a chadair yr Eisteddfod Ryng-golegol yn 2019. Mae’n gweithio ar hyn o bryd ar brosiect doethurol ym Mhrifysgol Abertawe, dan nawdd y Ganolfan yr AHRC ar gyfer Ymchwil Doethurol mewn Astudiaethau Celtaidd.

Creu Cyswllt

Dyma flog gan Elan Grug Muse a fu’n cydweithio gyda’r ddawnswraig Shakeera Ahmun i greu Cyswllt | Datgyswllt, fel rhan o brosiect traws gelfyddyd digidol Llenyddiaeth Cymru a Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru, Plethu/Weave.

‘Helo, can you hear me?’

Pam fod pob sgwrs Zoom yn dechrau fel ymdrech i gyfathrebu rhwng dau ofodwr?

‘So, ‘da ni’n cydweithio ar y prosiect ‘ma. Sgen ti unrhyw syniadau?’

Mae’n anodd ymlacio dros Zoom, anodd creu y gofod anffurfiol yna sydd ei angen i siarad a sgwrsio. Mae un llygad ar y cloc, un llygad ar beth bynnag sy’n digwydd oddi ar y sgrin. Heb fod yn yr un gofod corfforol, anodd cael y pwyntiau cyfeirio cyffredin hynny – ansawdd y coffi, y traffig ar y ffordd, y tywydd. Mae pawb yn ei swigen fach ei hun, a sgrin y ffôn yn ffenest ddigon cyfyng i estyn trwyddi.

Heblaw am Covid-19, wrth gwrs. Mi all pawb siarad wast am Covid-19.

‘Sut mae pethe acw?’

‘Glywest ti am yr hwn-a-hwn?’

‘A be amdan y peth-a’r-peth?’

O drafod Covid y daeth y syniad ar gyfer ein prosiect, yn y pen draw. Trafod pobl yn llwyddo i adael perthnasau treisgar, a straen Covid ar berthnasau; ond hefyd yr hanesion am bobol yn dod at ei gilydd: i gefnogi cymdogion, i fod yn gefn.

Nid fod y prosiect yn ymateb i Covid yn benodol. Dilyn sgwarnog i sôn am berthnasau yn fwy eang wnaethon ni yn y pendraw, am sut mae pobol wedi eu clymu at ei gilydd, weithiau mewn ffyrdd sy’n cryfhau, ond yn aml iawn mewn ffyrdd sy’n caethiwo, a maglu. Cymhlethdodau ein cysylltiadau, a phwysigrwydd dat-glymu, fel modd weithiau i sicrhau dyfodol perthynas, neu i ddianc rhag perthynas docsig, boed hynny ar lefel blatonaidd neu ramantus.

Dyna oedd gen i mewn golwg wrth ysgrifennu’r gerdd felly, a’i recordio, er mwyn i Shakeera, sydd ddim yn siarad Cymraeg, glywed sŵn y geiriau i gyd-fynd â’r cyfieithiad wnes i ar ei chyfer hi.

Ac wedyn, aros, i weld sut y bydde hi’n mynd ati i ddehongli y gwaith. Fel perthynas sawl un efo gwahanol ffurfiau o gelfyddyd nad ydyn nhw’n gyfarwydd efo nhw, dwi’n euog o ddweud ‘nad ydw i’n deall dawns’ – euog o gymryd mai ‘deall’ yw’r bwriad. Drwy ddehongliad Shakeera, ymddangosodd strwythur y ddawns i mi yn beth llawer agosach at y cyfarwydd, sef barddoniaeth. Yr oedd pob saethiad o’r fidio, a’r cyfuniad o symudiadau oddi mewn i bob saethiad yn teimlo fel llinell o farddoniaeth, a’r toriad rhwng pob saethiad i mi yn cael yr un effaith a thoriad llinell. O gyfosod y ddau, yr oedd toriadau Shakeera weithiau yn syrthio yn yr un man a fy rhai i yn y gerdd; dro arall, roedden nhw’n goferu, neu yn torri llinell ar ei chanol mewn man annisgwyl, newydd − toriadau oedd yn rhoi gwedd newydd i’r gerdd. Fentra i ddweud, fel cerdd dant?

 

cyswllt/datgyswllt

 

Maen nhw’n trio hedfan barcud.
Ei lansio’n uchel, ei ddwylo’n dynn
am ei dwylo bychan. Llinynnau’n tynnu,
y sgwaryn bach yn saethu fyny cyn plymio
nôl i’r traeth. Mae’n gwrthod cydio.
Maen nhw’n ôl y barcud a thrio eto.
Ei bochau’n cochi. Does dim yn tycio.
Ac ar y dŵr mae bwi’n nofio,
hwnnw hefyd ynghlwm wrth rywbeth,
yn tynnu ar raff. Mae’r gwynt
yn chwipio’r dillad ar y lein, y ceblau trydan.
Dwi’n meddwl am rubanau’r hen gaséts
dynnais unwaith o’r riliau a’u taenu’n
wymon tywyll dros y tŷ. Dwi’n
dychmygu’r ceblau’n llacio, dychmygu’r bwi
yn datod ei holl glymau un min nos
a thorri’n rhydd.

Mae’r ferch yn dal i drio, ei thalcen
yn grych o ganolbwyntio, dwylo dad
yn dal ei phenelin. Mae mam yn lansio’r
barcud. Mae’r gwynt yn cydio. Y tri
yn sefyll yno’n gwylio’i hediad llyfn,
y ferch yn llywio, plwc i’r chwith,
addasu’r tensiwn, ac yna’n
gadael fynd.