Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru yn Penodi Bakani Pick-Up fel Cyfarwyddwr Artistig Mae Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru (CDCCymru) wedi penodi Bakani Pick-Up fel Cyfarwyddwr Artistig (Prif Weithredwr ar y Cyd) a David Watson fel Cyfarwyddwr Gweithredol (Prif Weithredwr ar y Cyd) Dros Dro. Bydd Bakani yn dechrau gyda'r cwmni ym mis Medi 2025 a bydd David yn dechrau ym mis Ebrill. Mae CDCCymru yn gwmni dawns gyfoes sefydlog sy'n teithio'n genedlaethol ac yn rhyngwladol, gyda dawns gorfforol uchelgeisiol a gweledol drawiadol sy'n mynegi syniadau y tu hwnt i eiriau ac yn archwilio’r hyn mae’n ei olygu i fyw yng Nghymru a’r byd heddiw. Gan feithrin dawn ac arloesedd, mae CDCCymru yn gweithio ag artistiaid o Gymru ac artistiaid sydd wedi'u lleoli yng Nghymru, yn ogystal â chyflwyno rhai o leisiau mwyaf cyffrous y byd dawns i Gymru o bob cwr o'r byd. Dywedodd Bakani Pick-Up, "Rwy'n edrych ymlaen yn arw at ymuno â Chwmni Dawns Cenedlaethol Cymru fel Cyfarwyddwr Artistig. Mae fy nhaith yn y byd dawns wedi croesi sawl maes gwahanol. Pleser o'r mwyaf yw cael dod â fy nghefndir eclectig i'r cwmni wrth i ni geisio datblygu ac arwain drwy esiampl ar y posibiliadau lu ar gyfer dawns gyfoes ledled Cymru yn y dyfodol." Mae Bakani Pick-Up, sy'n enedigol o Zimbabwe fel Coreograffydd, Ymchwilydd a Rhaglennydd a sefydlodd Bakani Pick-Up Company yn 2018. Yn ogystal, mae Bakani yn gweithio'n llawrydd fel Perfformiwr ac Athro, gan ehangu ei arbenigedd mewn addysgeg, llesiant creadigol, arweinyddiaeth, llywodraethiant a'r celfyddydau rhyngddisgyblaethol. Cyflwynwyd peth o'i waith diweddar yn The Place, Llundain; Vienna Secession, Awstria; ac ar BBC Four. Ar hyn o bryd, mae Bakani hefyd yn Ymddiriedolwr Cyswllt yn Yorkshire Dance, ac yn Ymddiriedolwr yn Chisenhale Dance Space ac arferai wasanaethu ar sawl bwrdd cynghori artistig ar gyfer cwmnïau dawns ar draws y DU. Bu Bakani hefyd yn cymryd rhan yn 'Laboratori', rhaglen ymchwil a datblygu CDCCymru, yn 2021."Rwy'n ddiolchgar bod gan y cwmni ffydd yn y weledigaeth artistig a gyflwynais, ac rwy'n edrych ymlaen at gael gweithio gyda'r Cwmni cyfan i sicrhau ein bod yn parhau i ddathlu gwaith artistiaid yng Nghymru, wrth wneud ein gorau ar yr un pryd i ddod ag artistiaid o bedwar ban byd i'n byd ni yma yng Nghymru. Rwy'n awyddus i gysylltu â'r cymunedau amrywiol niferus ar draws Cymru. Credaf fod dawns ar gyfer pawb a bydd y gwaith y byddwn yn ei gyflawni fel cwmni mewn blynyddoedd i ddod yn atseinio'r gred hon." Bakani Pick-Up Mae Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru yn edrych ymlaen at weithio gyda Bakani tuag at gred gyffredin bod dawns yn gallu trawsnewid ein byd - heb gael ei ddiffinio gan un llais, ond gan lawer. Dywedodd Alison Thorne, Cadeirydd Bwrdd yr Ymddiriedolwyr i Gwmni Dawns Cenedlaethol Cymru, "Rydym wrth ein boddau bod Bakani yn ymuno â ni i arwain y cwmni i mewn i gyfleoedd artistig newydd ac o ran cynulleidfaoedd a chymunedau. Mae'n dod â chyfoeth o brofiad dawns a meddylfryd arloesol. Byddwn i gyd yn mwynhau gweithio gyda'n gilydd i greu byd a gyfoethogir gan ddawns." Bydd David Watson hefyd yn ymuno â Chwmni Dawns Cenedlaethol Cymru ym mis Ebrill 2025 fel Cyfarwyddwr Gweithredol (Prif Weithredwr ar y Cyd) Dros Dro, a dywedodd,"Rwy'n falch iawn o fod yn ymuno â Chwmni Dawns Cenedlaethol Cymru fel Cyfarwyddwr Gweithredol a Phrif Weithredwr ar y Cyd Dros Dro. Mae dawns yn rhan annatod ohonof, felly rwy'n teimlo'n arbennig o gyffrous fy mod yn dychwelyd i'r byd dawns, gan weithio ochr yn ochr â Bakani i adeiladu sylfaeni cadarn ar gyfer dyfodol mentrus ac uchelgeisiol. Rwy'n edrych ymlaen yn eiddgar at gael dechrau arni a gweithio gyda'r tîm anhygoel yn CDCCymru, ein cymunedau, partneriaid, a chynulleidfaoedd ar draws Cymru a thu hwnt." Mae David yn uwch arweinydd y celfyddydau a chanddo dros 15 mlynedd o brofiad ar draws rhai o brif sefydliadau diwylliannol y DU, yn cynnwys National Museums Liverpool, Birmingham Royal Ballet, Hull Dinas Diwylliant y DU 2017, English National Ballet, Royal Opera House a Seremonïau y Gemau Olympaidd a Pharalympaidd Llundain 2012, ymhlith eraill. Ef yw Cadeirydd Storyhouse yng Nghaer a Back to Ours yn Hull, ac mae'n gyn-ddawnsiwr proffesiynol ac yn gyn-goreograffydd. David yw cyflwynydd Before the Applause, podlediad sy'n archwilio'r hyn sydd ei angen i greu profiadau diwylliannol o'r radd flaenaf. Byddwn yn recriwtio am Gyfarwyddwr Gweithredol (Prif Weithredwr ar y Cyd) llawn amser yn ddiweddarach eleni. Llun: Bakani by/gan Ellywel Photography David by/gan Robin Clewley