SAY banner
Sarah Golding & Yukiko Masui (SAY)

Say Something

Gwybodaeth ynghylch y cynhyrchiad
30-35 Munud

Gan weithio â dawnswyr CDCCymru a bîtbocswyr yn cynnwys Dean Yhnell yn ogystal ag artistiaid dylunio ffasiwn a goleuo, bydd Sarah a Yukiko yn creu gwaith sy’n archwilio beth mae’n ei olygu i ‘gynrychioli’, a’r disgwyliadau cynyddol i gael llais. Bydd y gwaith newydd hwn yn wledd gorfforol, weledol a sonig diflino, gan bwysleisio brwdfrydedd SAY dros greu symudiad i gerddoriaeth sy’n gwneud i ystafell gyfan ysu i godi a dawnsio.

Tîm Creadigol

Hyd: 30-35 minutes 
Danswyr: 7

Cerddoriaeth/Bîtbocsiwr: MC ZaniDean Yhnell

Dylunio Gwisgoedd: George Hampton Wale
Dyluniad Goleuo: Joshie Harriette
Gwneuthurwr Gwisgoedd: Deryn Tudor 

 

Coreograffwr

Sarah Golding & Yukiko Masui (SAY)

Sarah Golding and Yukiko Masui (SAY) sitting by a wall
Adolygiadau

“There’s a loud beating heart at the core of Say Something.”
The Times

“full of verve and life.”

The Observer

energy never flags, and the dancers’ enjoyment is infectious topped by a rip-roaring finale”

Danza Danza Magazine

SAY

Yn syml, acronym am Sarah Golding a Yukiko Masui yw SAY. Bu’r ddau artist dawns hyn yn perfformio a chreu yn rhyngwladol ers 2012. Yn 2019, daeth Sarah ac Yuki â’u grymoedd deinamig at ei gilydd a ffurfio cyfuniad lle gwnaethant ddatblygu eu brwdfrydedd am ‘greu’ dawnsfeydd i ganeuon a cherddoriaeth newydd yr oeddent yn syml yn mwynhau bownsio iddynt. Mae SAY yn ymfalchïo mewn cynnwys cerddoriaeth artistiaid maent yn gweithio â hwy yn eu proses greadigol. Mae’n bwysig bod cydweithrediad gonest yn digwydd rhwng y ddwy ffurf o gelfyddyd i greu synergedd cyfan rhwng cerddoriaeth a dawns er mwyn cyflwyno cynulleidfaoedd newydd i ddawns gyfoes.

Hyfforddwyd Sarah Golding yn Trinity Laban a derbyniodd BA ac MA mewn perfformiad dawns (Transitions Dance Company). Ar ôl iddi raddio daeth yn ddawnsiwr gyda ‘Lîla Dance’ yn 2014, lle bu’n teithio’n genedlaethol ac i leoliadau cefn gwlad. Bu’n perfformio i gwmnïau theatr a choreograffwyr yn cynnwys y Royal Court, Alesandra Seutin, grŵp Bang Bang Bang, Darcy Wallace, Quang Kien Van, Cathy Waller. Yn fwy diweddar bu Sarah yn perfformio gyda’r West End a chast STOMP a fu’n teithio’r byd.

Mae gwaith coreograffig Sarah yn cynnwys Balletboyz (y cyflwyniad) Royal Court, TrinityLaban, Mountview (As You Like It, Children of Eden, Candide). Yn ddiweddar gweithiodd am y tro cyntaf yn y West End fel cyfarwyddwr symudiadau ar gyfer y ddrama hynod lwyddiannus, Cruise.

Dechreuodd Yukiko Masui ei hyfforddiant dawns mewn dawns hip hop a lladin yn Tokyo. Yn 2008, symudodd i Lundain i astudio Dawns Gyfoes lle ymunodd hi â Transitions Dance Company yn Trinity Laban fel rhan o’r cwrs MA. Ers iddi raddio, bu’n gweithio’n rhyngwladol gyda chwmnïau a choreograffwyr megis Agudo Dance, Art of Spectra(SE), Cathy Waller, Norrdans (SE), Rhiannon Faith, Rosie Kay, Tamsin Fitzgerald (2Faced Dance), TRIBE a mwy.

Mae gwaith coreograffig Yuki’n cynnwys Norrdans, LSCD, London Studio Centre, NSCD and Ballet Boyz (R&D). Comisiynwyd ei gweithiau gan The Place, DanceXchange, Riley Theatre, Norrlands Opera ymhlith eraill, a theithiwyd hwy’n ogystal. Mae hi hefyd wedi coreograffu sioeau cerdd a chynyrchiadau theatr megis A Little Night Music (Story House), GUY: A New Musical (Bunker Theatre) a Miss Julie (Southwark Playhouse).

Galeri
dancers around a microphone
dancer leaning back, hands on face in neon green shirt
dancer singing into microphone under red light
dancer bending all the way back wards whilst standing under blue light