young people dancing in a black studio
CDCCymru yn Cyflwyno

Dance Workshops

Grwpiau Addysg Uwch/Bellach

For higher education and dance groups. 
Cyflwyniad hwyliog, corfforol a chreadigol i ddawns a symudiad.

Rydym yn gwmni sy'n symud, mewn cenedl sy'n symud. Gan symud gyda ni ein hunain, gydag eraill a chyda’r byd o’n cwmpas, ceisiwn ymgorffori uchelgais a dychymyg y Gymru gyfoes ym mhopeth a wnawn.

Mae dawns yn rhan greiddiol ohonom a chredwn yn gryf y gall dawns drawsnewid ein bywydau a’n byd.

Pwy bynnag ydych chi, rydym yn ceisio'ch galluogi chi i wneud pethau gwych, yn eich ffordd eich hunan. Rydym eisiau eich helpu chi i ddatblygu eich syniadau a'ch sgiliau unigryw, i'ch cefnogi i fyw bywyd iach. Gyda'n gilydd cawn gyd-greu sawl ennyd ryfeddol.

Gweithdai Dawns

Cyflwyniad hwyliog, corfforol a chreadigol i ddawns a symudiad.

Ymunwch â ni mewn gweithdy dawns cyffrous a chreadigol fydd yn siŵr o'ch bywiogi. Cawn hwyl yn archwilio a symud ein cyrff, gan blymio i fyd y coreograffi a gwaith Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru. Gall ein gweithdai eu llunio er mwyn archwilio themâu o berfformiadau, rhythm, gwagle yn ogystal â syniadau sy'n gysylltiedig â'r cwricwlwm yn uniongyrchol. Cawn gyfarfod ein gilydd yn y sesiynau, cawn chwarae a bod yn greadigol, gan ddatblygu hunanhyder ac ymwybyddiaeth o'r corff.

Byddem yn falch o gael cyd-ddylunio’r gweithdy gyda chi, gan ddwyn ynghyd yr hyn a wyddom, yr hyn yr ydym yn gyffrous yn ei gylch a’r hyn sydd ei angen arnom i ysbrydoli pobl ifanc a’u hannog i symud. Law yn llaw â'r cynnwys creadigol a chorfforol, gall y sesiynau hefyd gynnwys deunydd dysgu yn uniongyrchol o’n repertoire, cyfnodau i fyfyrio a thrafod yn ogystal â rhywbeth technegol i finiogi sgiliau dawns craidd. Byddai’r gweithdai hyn yn ddelfrydol ar gyfer y rhai sy’n astudio cyrsiau TGAU, Safon Uwch a BTEC yn y celfyddydau perfformio, dawns ac Addysg Gorfforol. Gyda'n gilydd gallwn ddatblygu sgiliau symud, sgiliau coreograffig a chreadigol, sgiliau perfformio a chorfforol yn ogystal ag archwilio cymeriad yn gorfforol.

Os yw eich ysgol yn mynychu perfformiad hefyd, byddai'r gweithdai yn ffordd wych o gysylltu â'r coreograffi a’r themâu cyn dod i sioe.

Hyd y gweithdy

Rydym yn argymell y dylai eich gweithdy Dawns fod yn 60 munud.

Os yw eich ysgol yn dymuno gweithdy byrrach neu hirach, neu gyfres o weithdai, mae croeso i chi gysylltu â ni i drafod eich anghenion penodol ac fe wnawn ein gorau i ymateb iddynt. Gallwn gynnig sawl gweithdy mewn un diwrnod.

Cost

£150 am un gweithdy

£225 am ddau weithdy 45 neu 60 munud yr un mewn un hanner diwrnod

£300 am dri gweithdy 45 neu 60 munud yr un mewn un diwrnod

 

 

Sut i Archebu

Cwblhewch y ffurflen ar-lein gyda manylion cyfeiriad yr ysgol, grŵp blwyddyn, nifer yn y dosbarth ayb.  Cysylltwch â Lucie.paddison@ndcwales.co.uk am ragor o wybodaeth.

e.e Ysgol, Grwp 
e.e. creadigol/llesiant/archwilio artistig
e.e. campfa – nid yw'n bosibl i ni ddarparu gweithdy ar lawr concrid na llawr wedi'i garpedu
Unrhyw wybodaeth ddefnyddiol arall am y cyfranogwyr neu'r lleoliad