
Swyddi a Gwirfoddolwr

Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru (CDCCymru) yw un o gwmnïau celfyddydol cenedlaethol Cymru. Rydym yn gweithio gyda choreograffwyr eithriadol wedi’u lleoli yn y DU ac yn rhyngwladol i ymgysylltu ac ysbrydoli cynulleidfaoedd a chyfranogwyr ledled Cymru, y DU yn ehangach ac yn rhyngwladol.

Buddion i Weithwyr
Mae eich iechyd a llesiant yn bwysig i ni, yn ogystal â chynllun pensiwn a gwyliau hael, caiff ein gweithwyr eu cefnogi hefyd drwy gynllun hyfforddi a datblygu.
- Cynllun beicio i’r gwaith
- Polisïau i gefnogi pobl gyda chyfrifoldebau gofalu
- Gostyngiadau mewn rhai siopau ym Mae Caerdydd
- Y cyfle i fynychu perfformiadau Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru
- Cynigion arbennig i staff ar berfformiadau yng Nghanolfan Mileniwm Cymru
Rydym yn ymrwymedig i’n polisi cyfleoedd cyfartal. Addasrwydd i ymgymryd â’r swydd yw’r prif faen prawf y byddwn yn ei ystyried wrth ddewis. Er mwyn i ni allu monitro ein polisi, a fyddech cystal â chwblhau’r holiadur canlynol.
Cofrestrwyd fel Cwmni Cyfyngedig yng Nghymru a Lloegr, Rhif 1672419
Cofrestrwyd fel Elusen yng Nghymru a Lloegr, Rhif 326227