dancers legs standing on a white dance floor in socks

Stiwdios Wrth Gefn

Ar ddydd Llun cyntaf pob mis, byddwn yn rhyddhau rhestr o ddyddiadau pan fydd lle stiwdio ar gael y mis canlynol.

Bydd y dyddiadau hyn ar gael i’w llogi am ddim ar ein gwefan i artistiaid dawns annibynnol o Gymru neu artistiaid sy'n gweithio yng Nghymru, ac fe’u rhoddir ar sail y cyntaf i’r felin. 

Dyddiadau Presennol Sydd Ar Gael:

EBRILL

Gwe 26ain ARCHEBU

MAI


Iau 9fed: AM yn unig 9.30am - 1pm ARCHEBU

Gwe 10fed ARCHEBU

Iau 16eg: AM yn unig 9.30am - 1pm ARCHEBU

Gwe 17eg

Iau 23ain: AM yn unig 9.30am - 1pm

Gwe 24ain

 

I wneud cais am le stiwdio, e-bostiwch gyda’r wybodaeth ganlynol:

Enw:
Cwmni (os yw’n berthnasol):
E-bost:
Rhif Cyswllt:
Nifer o bobl yn eich grŵp:
A ydych chi, neu eich cwmni/artistiaid wedi’ch lleoli yng Nghymru?
Dewiswch y dyddiadau yr hoffech eu harchebu:
Disgrifiwch y gweithgaredd rydych yn bwriadu ei wneud yn yr lle sydd ar gael:

Noder, rhaid ystyried archebion ar gyfer Standby Studios fel ceisiadau dros dro hyd nes y cânt eu cadarnhau drwy e-bost gan aelod o staff y Tŷ Dawns, ac mae’n rhaid iddynt fodloni meini prawf cymhwystra. Rydym yn ceisio ateb o fewn 2 ddiwrnod gwaith ar ôl gwneud yr archeb ac yn diolch i chi am eich amynedd.

Stiwdios Wrth Gefn - y print mân 

Pan fyddwch yn archebu stiwdio o dan y cynllun Wrth Gefn, byddwn yn anfon e-bost atoch i gadarnhau argaeledd - nes i chi gael yr e-bost hwnnw ni ddylid cymryd bod yr archeb wedi’i chadarnhau. Ac yn ysbryd partneriaeth, gofynnwn i chi ddilyn y canllawiau hyn: 

  • Mae’r Stiwdios wrth Gefn ar gyfer artistiaid dawns annibynnol o Gymru neu artistiaid sy'n gweithio yng Nghymru, i gefnogi eu gwaith a'u hymarfer. Os nad yw hyn yn berthnasol i chi, defnyddiwch y system archebu stiwdio safonol. 
  • Mae’r cynllun Stiwdios wrth Gefn wedi'i fwriadu ar gyfer gweithgaredd dawns. Dywedwch wrthym beth rydych chi'n bwriadu ei wneud â'ch lle stiwdio pan fyddwch chi'n archebu. 
  • Oherwydd nad ydym yn codi ffi llogi, mae angen i ni allu staffio'r stiwdio yn ystod ein horiau swyddfa arferol, felly dim ond yn ystod yr wythnos rhwng 9am a 5pm y mae’r Stiwdios Wrth Gefn ar gael. Bydd yn rhaid i ni godi tâl am unrhyw oriau neu ddiwrnodau ychwanegol pan nad oes staff yn yr adeilad fel arfer. 
  • Mae gan y stiwdios system sain y gallwch ei defnyddio, ond os oes angen cymorth technolegol ychwanegol arnoch, byddwn yn  trosglwyddo’r gost i chi, y gwir gost. 
  • Oherwydd ei bod yn debygol y bydd galw mawr am y lle stiwdio, rydym eisiau sicrhau ei fod yn cael ei ddefnyddio ar ôl ei archebu, felly gwnewch yn siŵr y byddwch yn bendant yn gallu defnyddio'r stiwdio pan fyddwch yn archebu. Os byddwch yn archebu lle, ac yna ddim yn ei ddefnyddio, byddwn yn codi £80, a bydd y ffi hon yn daladwy hefyd os byddwch yn canslo gyda llai na 48 awr o rybudd. 
  • Oherwydd ein bod eisiau eich cadw chi a phawb arall yn yr adeilad yn ddiogel, mae gennym  weithdrefnau Covid ac Iechyd a Diogelwch ar waith y byddwn yn gofyn i chi eu dilyn, er lles pawb. 
  • Noder, oherwydd ein llawr dawnsio proffesiynol, rydym ond yn caniatáu sanau, traed noeth, ac esgidiau sydd â gwadn nad ydynt yn marcio yn y stiwdio.

    Os ydych yn bwriadu ymarfer mewn esgidiau uchel, esgidiau tap, esgidiau sydd â gwadn gwyn neu ddu, neu unrhyw fath o esgidiau eraill, mynnwch sgwrs gyda ni’n gyntaf er mwyn inni allu eich cynghori.