a dancer dressed in a suit holds a breifcase open in front of their face under a red light
gan Thomas Carsley

Fan the Flames

Gwybodaeth ynghylch y cynhyrchiad
12 Minutes

Mae gweithiwr swyddfa, myfyriwr a hen ddyn unig, sydd wedi diflasu ac sy'n anfodlon â'r byd heddiw, yn dod o hyd i'r cryfder sydd y tu mewn iddynt. Dawns gain, fywiog ac emosiynol. Ceir cerddoriaeth newydd gan y cyfansoddwr Eric Martin Kamosi.

Tîm Creadigol

Coreograffydd: Thomas Carsley 
Goruchwyliwr Gwisgoedd: Deryn Tudor  
Dylunio Golau: Geraint Chinnock, Will Lewis
Cerddoriaeth: Eric Martin Kamosi 

Thomas headshot

Thomas Carsley

Yn ddiweddar graddiodd Thomas Carsley o Liverpool Institution for Performing Arts. Dechreuodd goreograffu mwy pan ddechreuodd ei hyfforddiant yn LIPA a daw ei arddull dawns a choreograffi o'r symudiad Cyfoes/Hip Hop sy'n cynnwys arbrofi i fynegi hwyliau'r thema gyfan. Cyrhaeddodd Thomas rownd derfynol Dawnsiwr Ifanc y BBC yn 2019 hefyd a gweithiodd gyda mentoriaid yn cynnwys Ivan Blackstock a Kenrick Sandy.

Eric headshot

Eric Martin Kamosi

Mae Eric Martin Kamosi yn gyfansoddwr a cherddor electronig sy’n chwarae’r gitâr ac yn creu cerddoriaeth werin, roc, concrit, electronig a minimaliaeth, gan ddefnyddio amrywiaeth o offerynnau, recordiadau maes a seiniau electronig. Mae wedi cyfansoddi a pherfformio ar gyfer darnau dawns broffesiynol a theatr gorfforol, ac wedi creu gosodiadau cerddorol, dyluniad synau, cerddoriaeth a chyfansoddiadau algorithmig ar gyfer offerynnau byw fel rhan o radd BA (Anrh) ‘Cerddoriaeth a Sain Greadigol’ o Brifysgol De Cymru, a gradd Meistr mewn ‘Cyfansoddi Digidol a Pherfformio’ o Brifysgol Caeredin a Mmus o Guildhall School of Music and Drama. Ar ôl ymgymryd â hyfforddiant cyfansoddi cyfryngau a chyfansoddi cerddoriaeth ar gyfer y sgrin a theatr fyw, mae Eric yn parhau i ymddiddori mewn gweithio gydag artistiaid o ystod eang o ddisgyblaethau.

Galeri
dancer floats on breifcase
dancer floats on breifcase
dancer floats on breifcase