Matthew Robinson with NOW NAWR logo in corner

NDCWales: NOW | NAWR

Matthew Robinson yn cyhoeddi ei dymor llawn cyntaf fel Cyfarwyddwr Artistig Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru

CDCCymru yn cyhoeddi rhaglen o waith ar gyfer 22/23 o’r enw NOW | NAWR, yn cynnwys: 

  • PARTi – prosiect cyd-greu ar gyfer dawnswyr CDCCymru ac aelodau o gymunedau Ystradgynlais a Rhydaman; 

  • taith Wanwyn dros y DU, yn cynnwys gwaith newydd gan Sarah Golding a Yukiko Masui (SAY), dau bît-bocsiwr yn cynnwys Dean Yhnell, artistiaid ffasiwn a dylunio golau a dawnswyr CDCCymru, yn ogystal â Waltz Marcos Morau, a gaiff ei pherfformio yn y DU am y tro cyntaf; 

  • 4x10; pedwar darn newydd 10 munud o hyd yr un, wedi’u creu gan artistiaid o Gymru neu sydd wedi’u lleoli yng Nghymru yn cynnwys Cydymeithion Artistig newydd CDCCymru June Campbell-Davies ac Osian Meilir, comisiwn newydd gan Daisy Howell a gwaith wedi’i berfformio gan Gydymeithion Ifanc CDCCymru wedi’i goreograffu gan Matthew Robinson; 

  • Prosiect cydweithio newydd, rhyngwladol gyda Korean National Contemporary Dance Company (KNCDC), wedi’i leoli yn Ne Corea; a 

  • gwaith erioed cyntaf y cwmni ar gyfer pobl ifanc a’u teuluoedd, wedi’i goreograffu gan Lea Anderson MBE. 

Mae Cyfarwyddwr Artistig Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru (CDCCymru), Matthew Robinson, wedi cyhoeddi ei dymor cyntaf o waith ar gyfer y cwmni; cymysgedd cyffrous o gomisiynau a phrosiectau cydweithredu newydd a theithiau ledled y DU ac yn rhyngwladol ar gyfer 2022/23, o dan y teitl NOW | NAWR. 

Ym mis Tachwedd 2022, mi fydd CDCCymru yn gwahodd cynulleidfaoedd i PARTi yn Ystradgynlais a Rhydaman; noson wefreiddiol gyda dawns wrth ei chalon. Mi fydd dawnswyr CDCCymru, ynghyd ag aelodau o’r gymuned leol, yn gweithio gyda’r coreograffydd lleol Emily Robinson i gyd-greu gwaith dawns newydd. Caiff hwn ei berfformio wrth ochr ail waith dawns newydd wedi’i greu gan y coreograffydd lleol Thomas Carsley (cystadleuydd Dawnsiwr Ifanc y BBC 2019), a pherfformiad unigol gan Thomas ei hun. Mi fydd ein gwesteiwr wedyn yn gwahodd y gynulleidfa i ymuno â’r PARTi mewn twmpath i gloi’r noson.  

Ym mis Rhagfyr 2022, aiff CDCCymru i’r Almaen a’r Swistir gyda thri perfformiad cyffrous. Cafodd cynulleidfaoedd eu swyno yng Ngwanwyn 2022 gan Ludo Caroline Finn a Wild Thoughts gan Andrea Costanzo Martini. Bydd y ddau yn rhan o’r rhaglen yma ynghyd â Why are People Clapping?!; sioe boblogaidd dros ben gafodd ei chreu gan un o ddawnsiwr y cwmni, Ed Myhill. Mae teithiau rhyngwladol CDCCymru yn chwarae rôl bwysig wrth hybu Cymru i’r byd, ac mae’r cwmni wrth eu boddau’n mynd â’r rhaglen yma, a wnaethpwyd yng Nghymru, i Ewrop. 

Yn 2023 mi aiff y cwmni ar daith dros y DU gyda gwaith newydd gan y pâr o goreograffwyr Sarah Golding a Yukiko Masui (SAY), sy’n adnabyddus am eu hegni, eu brwdfrydedd a’u cariad at gerddoriaeth sy’n eu cyffroi. Trwy gydweithio â dawnswyr CDCCymru, dau bît-bocsiwr yn cynnwys Dean Yhnell, yn ogystal ag artistiaid ym myd ffasiwn a dylunio golau, mi fydd gwaith newydd Sarah a Yukiko yn wledd corfforol, gweledol a sonig. Ochr-yn-ochr â hwn bydd Waltz gan y coreograffydd arloesol o Sbaen, Marcos Morau, a greodd un o ddarnau mwyaf cofiadwy y cwmni, Tundra. Mi fydd Waltz – yn ei pherfformiad cyntaf yn y DU – yn tywys cynulleidfaoedd trwy rai o’r waltsiau cerddorol gorau fu erioed. 

Mi fydd 4X10 yn dod â phedwar o goreograffwyr o Gymru neu sydd wedi eu lleoli yng Nghymru at eu gilydd am un noson wefreiddiol o ddawns ym mis Awst 2023. Gyda phedwar darn trawiadol o ddawns, 10 munud o hyd yr un, wedi’u cyflwyno i gynulleidfa ar bedwar ochr, mi fydd 4X10 yn eich gwahodd i brofi symud yn agos atoch. Bydd Daisy Howell o Wrecsam yn ymuno â Chydymeithion Artistig newydd CDCCymru June Campbell-Davies ac Osian Meilir i greu gweithiau gyda dawnswyr CDCCymru. Yn y cyfamser, mi fydd Matthew Robinson yn cyd-greu gwaith newydd gyda Chydymeithion Ifanc y cwmni. Mi fydd y noson unigryw hon yn cynnwys lleisiau nodedig o’r byd dawns. 

Wrth ffocysu ar ddatblygu sgiliau corfforol, creadigol a pherfformio, mi fydd Cydymeithion Ifanc y cwmni yn cydweithio gydag Artist Ymgysylltu Dawns a detholiad o artistiad ymweliadol bob dydd Sul. Trwy wersi, gweithdai a chyfleodd perfformio, mi fydd y rhaglen yma – sydd wedi magu dawnswyr newydd ers dros ddegawd ond sydd nawr ar ei newydd wedd ar gyfer y criw nesaf – yn blatfform i lansio’r genhedlaeth nesaf, yn barod i siapio dyfodol dawns.  

Mae CDCCymru yn datblygu prosiect mewn cydweithrediad â’r Korean National Contemporary Dance Company (KNCDC), sydd wedi’i leoli yn Ne Corea. Mi fydd coreograffydd Cymreig yn gwneud gwaith gyda KNCDC yng Nghorea, a choreograffydd o Dde Corea yn gwneud gwaith gyda ChDCCymru yng Nghymru. Aiff y ddau ddarn ddaw o’r broses yma eu perfformio ar daith i leoliadau yn y DU a De Corea yn Hydref 2023. 

Ac yn olaf, am y tro cyntaf erioed mi fydd CDCCymru yn gwneud gwaith yn benodol ar gyfer pobl ifanc a’u teuluoedd. Wrth gydweithio â’r coreograffydd Prydeinig arobryn Lea Anderson MBE a thîm o gydweithwyr cynhyrchiol, mi fydd CDCCymru yn perfformio’r gwaith yma am y tro cyntaf yng Nghaerdydd ym mis Rhagfyr 2023, yn barod i deithio’r DU yn 2024. 

Wrth gyhoeddi ei dymor cyntaf, meddai Cyfarwyddwr Artistig CDCCymru, Matthew Robinson: “Fel cwmni, dydyn ni ddim yn aros yn yr unfan. Rydym yn symud, ein hunain, gydag eraill a gyda’r byd o’n cwmpas. Mae Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru yn blatfform i lawer o leisiau, ac yn adlewyrchu’r ystod o brofiadau o fyw yn y byd yma, nawr. Er mwyn bod yn gyfoes, rydym yn adlewyrchu syniadau a phrofiadau o’r funud hon.  

”Mae mynegi, trwy symud, yr hyn na ellir ei ddweud wrth galon yr hyn rydym yn ei wneud. P’run ai fod pobl yn cwrdd â ni mewn theatr, stiwdio, yn yr awyr agored neu mewn le digidol, gallan nhw ddisgwyl profi ein angerdd.” 

Ychwanegodd Paul Kaynes, Prif Weithredwr CDCCymru: “Rydym ni’n awyddus i ddod â llawenydd ac egni dawns i gymaint o wahanol bobl â phosib. Mi fydd y rhaglen yma yn ysbrydoli pobl ar draws Cymru a thu hwnt, trwy greu dawns gyda phobl leol, dangos ein dawnswyr ffantastig wrth eu gwaith yn rhyngwladol, rhoi profiad o ddawns heb-ei-ail i deuluoedd a thrwy greu gwaith gan artistiaid o Gymru yn eu prifddinas. Y bwriad yw i ddiddanu pobl trwy gyfoeth a bywioldeb dawns gyfoes, nawr.” 

Gwrandewch ar Matthew yn siarad am NOW | NAWR