September image, two dancers entwined on the floor in black and white
Matthew Robinson

SEPTEMBER

Gwybodaeth ynghylch y cynhyrchiad
15 munud

Gwaith newydd gan Gyfarwyddwr Artistig CDCCymru, Matthew Robinson. 

 

Mae SEPTEMBER yn ymwneud â bod eisiau byw mewn moment am byth, a chyflymder di-baid bywyd yn ein llusgo ymlaen. Mae'n ymwneud â chariad a ffarwelio. Mae’n gerdd gorfforol ac yn rhaeadr o emosiynau. 

Mae SEPTEMBER yn gydweithrediad artistig rhwng Matthew Robinson, y cyfarwyddwr cerdd Torben Lars Sylvest, y Dylunydd George Hampton Wale ac artistiaid Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru. 

Cewch fynd ymlaen i wylio Sioe Agoriadol SEPTEMBER yn Theatr y Sherman yng Nghaerdydd ddydd Gwener 12 Mai fel rhan o CYNULLIAD, sef noson unigryw wedi’i llywio gan waith y cwmni HEDDIW, a’i gynlluniau ar gyfer yfory.    

Tîm Creadigol

Coreograffwr: Matthew Robinson 

Cerddoriaeth:
Cyfansoddwyd gan Torben Sylvest
Dyluniad sain a’r gwaith cymysgu gan Pär Carlsson
Ar gyfer PÄTO Studios

Dylunio Gwisgoedd: George Hampton Wale

Coreograffwr

Matthew Robinson

Matthew Robinson sitting on stairs in shorts smiling openly