Osian Meilier in welsh wool skirt and sheer top dancing in field with garter on leg

ARTISTIAID CYSWLLT Osian Meilir

Cyfweliad

Llun: Anest Roberts

A oes modd ichi sôn rhywfaint amdanoch eich hun, eich siwrnai yn y byd dawns yng Nghymru a thu hwnt?

Mae Osian Meilir yn artist sy’n creu ac yn perfformio gwaith dawns a symud. Mae’n hanu o Bentre’r Bryn yng Ngheredigion ar arfordir gorllewin Cymru. Aeth Meilir yn ei flaen i hyfforddi yn y Trinity Laban Conservatoire of Music and Dance, gan ennill gradd dosbarth cyntaf, cyn bwrw ymlaen â’i astudiaethau a chwblhau gradd MA mewn Perfformio Dawns fel rhan o Transitions Dance Company, gan raddio yn 2017.

Osian and two other perfomers of transitions company in grey silver costumes
Transitions Dance Company - ffoto: James Keates

Mae gwaith Meilir fel perfformiwr yn cynnwys gweithio gydag artistiaid fel Jo Fong, Laura Wilson, Lizzi Kew Ross & Co, Gwyn Emberton Dance, Satore Tech a Fearghus O’Conchuir.

Mae ei waith hefyd yn ymestyn i weithio yn y byd theatr ar gyfer cynulleidfaoedd ifanc, perfformio gweithiau gan Carlos Pons Guerra a Cahoots NI, teithio ledled y DU ac yn rhyngwladol, yn ogystal â’i waith solo ei hun ar gyfer Cwmni Theatr Arad Goch – Palmant / Pridd (Pavement / Pasture). Fe gyflwynodd ei gynhyrchiad cyntaf graddfa ganol – 'Qwerin', fel cyfarwyddwr a choreograffydd yn 2021, gan ehangu a datblygu’r gwaith i’w lawn hyd ar gyfer teithio yn 2022, gyda chyllid gan Gyngor y Celfyddydau. Ers hynny, mae Qwerin wedi teithio’n rhyngwladol, gan ymddangos mewn gwyliau yn Awstralia yn 2023. Hefyd, mae gan Meilir brofiad helaeth o arwain gweithdai a dosbarthiadau i blant, pobl ifanc ac oedolion.

 

Osian dressed like a penguin in white jeans and a hoodie with tie against an icy backdrop on a stage
Penguins
Ffoto: Robert Day
Perfformwyr:: Dominic Coffey, Olivia Van Niekerk and Osian Meilir

Mae profiadau cynharaf Meilir, a’i gefndir yn ymhél â dawnsio gwerin Cymru, yn golygu ei fod yn gwerthfawrogi dawnsio o bob math o ddiwylliannau gwahanol. Mae hefyd yn golygu ei fod yn gallu mwynhau sut y gall dawns adeiladu pontydd pwysig rhwng pobl o bob cwr o’r byd.

 

Beth fu uchafbwynt neu uchafbwyntiau eich gyrfa hyd yn hyn?

Yn ddi-os, uchafbwynt fy ngyrfa fu teithio gyda fy ngwaith coreograffig fy hun, sef Qwerin Bach, yn Awstralia yn gynharach eleni. Profiad gwirioneddol arbennig oedd cael perfformio fy ngwaith mewn gwahanol leoliadau trwy ynys Tasmania fel rhan o ŵyl Ten Days on the Island.

 

Rydych yn un o gymdeithion artistig Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru. A allwch sôn am y profiad hwnnw, ac unrhyw uchafbwyntiau arbennig?

Profiad unigryw yw bod yn un o gymdeithion artistig Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru. Fel artist dawns o Gymru sydd wedi dilyn gwaith y cwmni ers blynyddoedd lawer, teimlad gwych yw cael cyfle i ddatblygu fy ymarfer a’m gyrfa ar lefel genedlaethol a rhyngwladol. Fel perfformiwr llawrydd, mae cael cefnogaeth gan gwmni fel Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru yn eithriadol o werthfawr. Mae’n rhoi llwyfan imi ar gyfer datblygu ac arddangos fy ngwaith ac mae’n rhoi cyfle imi greu cysylltiadau newydd. Yr uchafbwynt i mi fu cyfarfod a gweithio gyda’r artistiaid a’r bobl wych sy’n rhan o’r cwmni.

Ar hyn o bryd rydych yn creu gwaith newydd sbon fel rhan o 4X10 gyda Chwmni Dawns Cenedlaethol Cymru. A allwch sôn rhywfaint am yr hyn sydd gennych dan sylw? Sut ydych chi’n teimlo ynglŷn â chreu’r gwaith hwn gyda’r cwmni?

Rydw i’n teimlo’n llawn cyffro a hefyd yn nerfus ynglŷn â chreu’r gwaith newydd hwn gyda’r cwmni. Fel yn achos pob proses greadigol newydd, mae mynd i mewn i’r ystafell honno fel camu i’r anwybod. Byddaf yn creu gwaith yn ymwneud ag undod ac unigoliaeth, gan ystyried cydamseredd a’r syniad sylfaenol bod undod i’w gael mewn amrywiaeth. Nid wyf yn hollol siŵr eto sut y bydd y syniadau hyn yn cael eu cyfleu ar ffurf symudiadau, ond yn sicr rydw i’n awyddus i gael bod yn greadigol yn y stiwdio unwaith eto!

osian in the rehearsal space for 4x10
Mei a Faye yn ymarfer ar gyfer 4X10

 

Pa gyngor fyddech chi’n ei roi i artistiaid sy’n dechrau ar eu taith yng Nghymru?

Fy nghyngor i fyddai bod yn agored ac yn barod i dderbyn cyfleoedd o bob math, hyd yn oed y cyfleoedd hynny nad ydych chi’n credu eu bod yn iawn i chi. Efallai y cewch eich synnu gan y pethau a ddysgwch a’r modd y byddwch yn tyfu, a does wybod â phwy y gwnewch chi gyfarfod ar hyd y ffordd. Hefyd, buaswn yn cynghori pobl i estyn llaw i unigolion a sefydliadau sydd wedi bod yn gweithio yn y sector ers blynyddoedd lawer er mwyn gofyn am gyngor ac arweiniad. Mae hi bob amser yn dda bod yn onest ac yn dryloyw ynglŷn â’r pethau a wyddoch a’r pethau nad ydych yn eu gwybod.

Beth sydd nesaf i chi a beth arall ydych chi’n gweithio arno?

Rydw i wedi bod yn gweithio llawer mwy yn y Theatr eleni, a byddaf yn parhau i wneud hynny y flwyddyn nesaf hefyd, gan ymestyn fy ymarfer i gyfarwyddo symud a chan weithio gydag actorion yn ogystal â dawnswyr. Yn ddiweddar, rydw i wedi bod yn gweithio fel coreograffydd a chyfarwyddwr symud gyda Chwmni Theatr Arad Goch yng nghynhyrchiad newydd y cwmni i blant a phobl ifanc, sef Jemima, sydd ar daith ar hyn o bryd. Hefyd, rydw i’n cydgysylltu prosiect o’r enw Mas ar y Maes gyda Balchder, gan weithio ochr yn ochr â phump o sefydliadau partner a chriw o berfformwyr llawrydd a chan redeg prosiectau a datblygu cyfleoedd er mwyn datblygu sîn gelfyddydau Gwiar, Gymraeg, groestoriadol yng Nghymru. Hefyd, rydw i’n parhau i deithio gyda’m gwaith coreograffig fy hun ar gyfer yr awyr agored, QWERIN, gyda pherfformiadau ledled Cymru, Lloegr ac yn Ffrainc yr haf hwn.

 

dancers in wild modern takes on traditional welsh costumes leaping in a field
Qwerin
Ffoto: Iolo Penri
Perfformwyr: Bethan Cooper, Cêt Haf, Deborah Light, Elan Elidyr, Mike Williams, Osian Meilir, Samiwel Humphreys

Ble all pobl ddod o hyd i ragor o wybodaeth amdanoch, neu ddilyn eich gwaith?

Edrychwch ar fy ngwefan www.osianmeilir.com i weld rhestr lawn o ddyddiadau QWERIN ac i ddarllen / gweld rhagor am y gwaith rydw i wedi’i wneud yn y gorffennol. Hefyd, gallwch fy nilyn ar Instagram ar @osianmeilir neu @qwerin__