dancer in blue tshirt laying on floor

Billy Maxwell Taylor: Y tu hwnt i Laboratori

Mae Laboratori Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru yn gwahodd coreograffwyr i archwilio a datblygu eu harfer creadigol. 

Gyda chefnogaeth gan Ymddiriedolaeth Gelfyddydau Fenton yn 2021 a 2022, mae’r rhaglen yn cynnig amser â thâl i goreograffwyr yn y stiwdio gyda chwmni o ddawnswyr. Mae Laboratori yn creu man diogel, agored ar gyfer arloesedd ac arbrofi ar gyfer rhoi cynnig ar syniadau newydd a chwestiynu rhai sy'n bodoli eisoes.    

Roedd Billy Maxwell Taylor yn un o chwe choreograffydd i gymryd rhan yn y rhaglen yn 2021. Cawsom sgwrs â Billy i drafod y rhan y chwaraeodd Laboratori yn esblygiad ei waith Rain Pours Like Coffee Drops, a berfformiwyd am y tro cyntaf yn Theatr Volcano, Abertawe. 
 
“Wrth symud i Gymru ar ôl graddio, roeddwn yn ansicr ynghylch sut fyddai fy syniadau a’r bydoedd yn fy ymennydd yn ymateb i’r lle newydd hwn. Sut fyddai’r hyn a ddechreuodd fel fy nhraethawd hir yn Rose Bruford College ac a enwyd ar y pryd yn Finding Over Time yn cael ei drosglwyddo i’r diwydiant dawns yng Nghymru?  

Dechreuodd y cyfan gyda chefnogaeth gan CDC Cymru a gynigiodd i mi’r lle i arbrofi ac ymchwilio drwy eu rhaglen Laboratori. Wrth i mi dreulio wythnos gyda nhw yn 2021, dechreuais fagu hyder fel arweinydd mewn ystafell ddawns yn ogystal â rhyfeddu at y cysylltiadau sydd gennym rhwng ein bywydau gwaith a’r tywydd newidiol sydd mor amlwg yng Nghymru. 

O’r fan hon dysgais fwy am y pentref yng Nghymru, a’r ffaith bod pob artist yn awyddus i gefnogi’r prosiect a’r ymchwil ymhellach, drwy Supporting Acts Richard Chappell Dance a Solo Duets for the Future Theatr Volcano. 

Pob ailadroddiad yn unigryw, pob ailadroddiad yn cael ei gefnogi. Ac yna daeth y foment o ganfod sut oedd modd i mi wella fel arweinydd drwy gais Cyngor Celfyddydau Cymru a chreu The Motion Pack. Eto, dim ond drwy fentoriaeth, cefnogaeth ac arweiniad y diwydiant yr oedd modd gwneud hyn. 

Nawr, wrth i ni edrych ymlaen, gwyddom fod bob ailadroddiad yn esblygu ac rydym yn edrych i weld sut mae’n cysylltu â mwy o artistiaid a mentoriaid yng Nghymru a sut all bob cysylltiad wella’r prosiect.” 

Person in suit placing white wooden blocks on a black floor

Dywedwch wrthym am Rain Pours Like Coffee Drops: 
 
“Mae Rain Pours Like Coffee Drops yn cynnig ennyd o lonyddwch ym mhrysurdeb ein bywydau gwaith. Gyda 1 o bob 5 o bobl yn teimlo na allant ymdopi â straen yn y gweithle, mae’r profiad hwn yn cynnig lle i ail-werthuso ein perthynas â gwaith.  

Drwy gyfarfod clyd lle mae modd i chi sipian coffi, synfyfyrio neu wylio â’ch llygaid yn led agored, mae The Motion Pack yn eich gwahodd chi i fyd lle mae amser yn aros yn llonydd dros dro, lle mae coffi’n hidlo’n araf a lle mae adeiladau concrid yn codi o’r ddaear. Mae’r Glaw yn myfyrio ar bwysau cynyddol Y Gweithiwr sy’n mynd ymlaen â’i ddiwrnod yn ôl yr arfer. Wrth i amser fynd heibio, felly hefyd mae’r dŵr ar y ffenestr. 

Yn 2023, rydym yn ceisio teithio i’r gweithle, gan rannu’r neges o “lonyddwch yn y prysurdeb” perthnasol gyda chynulleidfaoedd ledled Cymru ac i sicrhau ein bod, fel artistiaid, yn dadansoddi ein harferion gweithio ein hunain er mwyn annog llesiant a gofal.” 

Crëwyd Rain Pours Like Coffee Drops gan The Motion Pack a chefnogwyd gan Gyngor Celfyddydau Cymru, Theatr Volcano, CDCCYMRU a Jack Philp. Arweiniwyd gan arweinydd artistig Billy Maxwell Taylor a pherfformiwyd ganddo ef ei hun a Lili Chin. Y dylunydd sain oedd Sebastian Barrett, y rheolwr llwyfan technegol oedd George McGukin a chyflwynwyd cyfieithiadau a throsleisiau Cymraeg gan Rhys Horton ac Angharad Griffiths. www.billymaxwelltaylor.uk neu www.instagram.com/themotionpack.  

Ffotograffiaeth gan The Motion Pack a Kirsten McTernan