Headshot Jane

Cadeirydd CDCCymru’n myfyrio ar sicrhau gwell amrywiaeth mewn dawns

Rydym yn credu bod amrywio’r rheiny sy’n gweithio gyda ni - fel staff, aelodau bwrdd, artistiaid - yn allweddol i ehangu ystod y bobl sy’n gwylio ein gwaith ac yn cymryd rhan yn ein rhaglenni ymgysylltu. Mae bod â meddwl, profiad, cefndir a gwybodaeth amrywiol o fewn y Cwmni’n golygu ein bod yn adlewyrchu ystod ehangach o brofiadau a dyheadau pobl wrth gynllunio ein gwaith.  

Yn ystod fy 4 mlynedd fel Cadeirydd ymddiriedolwyr Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru, rydym wedi treulio amser yn chwilio am ffyrdd o greu’r newid hwnnw, ac wedi gosod nodau uchelgeisiol ar gyfer ein hamrywiaeth. Mae'n bwysig i ni ein bod yn sefydliad sy’n adlewyrchu’r Gymru fodern, oherwydd os nad ydym yn gwneud hynny, nid oes modd inni gyflawni ein blaenoriaethau o gyfiawnder cymdeithasol, arloesedd, a dod yn fwy gwydn. Mae cael gwell amrywiaeth o bobl yn rhan o’r sefydliad yn ganolog i gyflawni’r nodau hynny ac i ffynnu, felly nid yw hynny’n agored i drafodaeth. Dyna pam ein bod yn benderfynol o barhau â’r newid rydym wedi’i ddechrau, yn dysgu o’n profiadau wrth inni fynd. 

Mae ein Cynllun Cydraddoldeb Strategol yn adlewyrchu’r targedau rydym wedi’u gosod mewn partnerniaeth â Chyngor Celfyddydau Cymru. Rydym wedi gosod targedau uchelgeisiol ar gyfer gwella amrywiaeth ein staff a’n bwrdd, yn benodol mewn perthynas â thair o’r nodweddion gwarchodedig: hil, anabledd a chyfeiriadedd rhywiol. Rydym yn barod i gael ein beirniadu ar p’un a ydynt yn cyflawni’r targedau hynny, a byddwn yn darparu adroddiad ar y cynnydd tuag at y targedau rydym wedi’u gosod ar 23/24 mewn 12 mis.  

Nid ydym am gyflawni’r targedau hynny drwy eu gosod a newid y broses recriwtio’n unig, neu drwy hysbysebu mewn lleoedd newydd. Mae angen inni hefyd weld newid diwylliannol o fewn y sefydliad i sicrhau ein bod yn weithle cynhwysol lle mae pobl yn ddiogel ac yn cael eu cefnogi i fynegi a rhannu cyfoeth o bwy ydyn nhw.  

Mae 26% o’n gweithlu’n uniaethu fel LGBTQ+, gan gynnwys tri chwarter ein tîm arwain, ond hoffem fynd ymhellach ac rydym wedi gosod targed o 40% erbyn 23/24. Ac mae gennym ffordd hir o’n blaen o ran staff a bwrdd anabl - mae 13% yn anabl, sy’n bell o gyfartaledd y boblogaeth o bron i 22% o oedolion. Mae ein cynlluniau amrywiaeth mewn perthynas ag ethnigrwydd yn canolbwyntio ar bobl o dras Affricanaidd ar wasgar; pobl De, Dwyrain a De-ddwyrain Asia ar wasgar; pobl Gogledd Affrica a'r Dwyrain Canol, a phobl o gefndir ethnig amrywiol arall - mewn geiriau eraill, pobl sy’n profi hiliaeth. Ein nod yw adlewyrchu poblogaeth Caerdydd, lle mae tua 20% o’r boblogaeth yn perthyn i un o’r grwpiau hyn. Eto, mae gennym ffordd hir o’n blaen, gyda 14% o gefndir ethnig amrywiol ar hyn o bryd.  

Er ein bod yn gwneud cynnydd o safbwynt amrywiaeth ein gweithlu, mae’r amrywiaeth o safbwynt ein cynulleidfaoedd a chyfranogwyr yn newid yn fwy graddol. Wrth inni gynyddu ein cynulleidfaoedd, mae amrywiaeth wedi gwella, yn enwedig o ganlyniad i’r gwaith mae ein tîm o Lysgenhadon Dawns yn ei wneud ledled Cymru, yn gweithio’n bennaf gyda phobl ifanc i ddatblygu diddordeb mewn dawns. Rydym nawr yn datblygu rhaglenni newydd, wedi’u hysbrydoli gan egwyddorion cyd-greu i fod yn wirioneddol gynhwysol o gymunedau sydd wedi eu heffeithio waethaf o achos y pandemig.  

Hoffem siarad â sefydliadau ac unigolion eraill ynghylch sut y gallwn greu’r newid sydd ei angen. Rydym yn gwybod nad oes gennym yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnom - felly rydym yn barod i drafod ag eraill er mwyn rhannu ein profiadau a’r hyn rydym yn ei ddysgu.

Os hoffech chi gysylltu â ni, mae croeso ichi wneud - un ai gyda mi’n uniongyrchol neu ein Prif Weithredwr, Paul Kaynes.