Group of Dancers in bright costumes

CDCCymru yn cyflwyno ei berfformiad disgrifiad sain cyntaf

Mae CDCCymru yn gweithio gydag Alastair Sill, disgrifydd sain o Word of Mouth, i gyflwyno’r hyn a gredir yw perfformiad disgrifiad sain cyntaf y Cwmni yn Theatr y Sherman, Caerdydd ar 26 Ebrill.

Yn rhan o’r broses, mae Alastair wedi bod yn un o ymarferion gwisgoedd y sioe ‘Law yn Llaw’ a bydd yn cyfarfod â choreograffwyr y tri darn dawns i drafod y gwaith mewn mwy o fanylder.

Mae Alastair hefyd wedi cynhyrchu taflen sain i’w defnyddio i hyrwyddo’r sioe i’r rheiny sydd wedi colli eu golwg a chynulleidfaoedd sy’n ddall neu’n rhannol ddall. Gallwch wrando arni yma.

Gofynnwyd i Alastair egluro ychydig mwy am Ddisgrifiad Sain a beth i’w ddisgwyl.

Beth yw Disgrifiad Sain? Sut mae’n gweithio?

Mae disgrifiad sain i’r theatr yn sylwebaeth fyw sy’n manylu ar yr agweddau gweledol ar gynhyrchiad fel mynegiadau wyneb, symudiadau ac unrhyw jôcs gweledol. Mae’r sylwebaeth yn digwydd rhwng y ddeialog ac yn helpu i gyfleu’r stori drwy ddefnyddio iaith a thôn llais yn briodol. Mae’r disgrifiad yn cael ei ddarlledu gan ddefnyddio technoleg isgoch, radio neu ddi-wifr ac yn cael ei glywed gan aelodau’r gynulleidfa sy’n gwisgo clustffonau ysgafn arbennig.

Bydd aelodau tîm blaen y tŷ yn dangos i aelodau’r gynulleidfa sut i ddefnyddio’r clustffonau, fel bod pawb yn teimlo’n gyfforddus cyn i’r perfformiad ddechrau.

Sut mae disgrifiad sain ar gyfer dawns yn wahanol i berfformiadau theatr neu berfformiadau eraill y byddwch chi fel arfer yn eu disgrifio drwy sain? Beth fu’n rhaid i chi ei wneud yn wahanol i baratoi?

Mewn disgrifiad sain theatr, mae’r disgrifio yn digwydd yn y seibiannau rhwng y ddeialog. Mewn darn o ddawns yn llawn symudiadau heb unrhyw ddeialog, bydd heriau eraill yn codi. Er enghraifft, mae angen taro cydbwysedd rhwng cyfleu rhywfaint o iaith dechnegol y ddawns ac ansawdd y symud. Naws y ddawns. Y profiad. Wedi dweud hynny, gall iaith dechnegol fod yn atgofus iawn a helpu i greu’r ddelwedd honno. Yr hyn all fod yn ddefnyddiol yw disgrifio sut mae’r symud yn gweithio mewn cyflwyniad ac yna disgrifio effaith y symudiad yn y perfformiad ei hun.

Rydw i wastad yn edmygu dawnswyr a sut maent yn defnyddio’u corff i gyd i ddweud stori. Ac felly, mae mwy iddi na’r hyn a wnawn nhw efo’u traed, pethau fel – beth maen nhw’n ei wneud efo’u dwylo? Eu gên hyd yn oed? Eu cyhyrau yn crychu. Efallai mai’r peth lleiaf un sy’n drawiadol ar ryw adeg neilltuol, ond efallai mai’r peth bach yma sy’n gyrru’r olygfa neu’n dangos sut mae cymeriad yn meddwl. Anadlu’r cymeriad hefyd, rhoi lle i hyn gael ei glywed. Fel mewn drama, ni ddylid llenwi tawelwch a seibiau

oherwydd mai tawelwch sydd yna. Mae rhesymau pam ei fod yno ac mae’n bwysig barnu hynny’n ofalus mewn darn dawns hefyd.

Mae disgrifio darn o ddawns drwy sain yn rhoi’r cyfle weithiau i chi ddefnyddio iaith ddwysach, sy’n fwy mynegiannol na phetaech chi’n disgrifio drama. Ac mae’r gerddoriaeth yn helpu hefyd, dilyn rhythm y gerddoriaeth – nid mynd yn ei erbyn. Y ffordd rydych chi’n defnyddio eich llais hefyd – i gyfleu tôn y ddrama. Bod yn rhan heb ymwneud gormod. Ac mae’r un fath yn wir am ddawns – cyfleu’r symud. Fel hyn, mae’n rhan greadigol a chyffrous iawn mewn cynhyrchiad. A hyd yn oed os ydych chi’n disgrifio yng nghefn yr awditoriwm mewn bwth gwrthsain, rydych chi’n teimlo’n rhan o’r hyn sy’n digwydd. Mae’n deimlad eithaf rhyfedd â dweud y gwir. Bu’r holl bethau hyn, a mwy, yn her i’r cynhyrchiad hwn, mae’n debyg. Mae temtasiwn yno i siarad...oherwydd eich bod chi eisiau gwneud y gorau i bobl. Ond ‘does neb eisiau gwrando ar rywun yn siarad yn ei glust drwy’r adeg.... Bu’n hollbwysig mynd i’r ymarferiad gwisgoedd, siarad efo’r coreograffwyr ar Zoom a gwrando ar eu barn am y coreograffi, siarad efo cydweithwyr hefyd – ac mae’n wych bod y cwmni a dawnswyr eraill mor agored a mor barod i helpu. Cerdded i ffwrdd o’r cyfrifiadur a pheidio â phoeni ynghylch gair, ond weithiau mynd am y peth cyntaf sy’n dod i’ch pen. Neu gymryd hoe a bod pethau’n eich taro chi. Mae’n her fawr ond werth yr ymdrech yn y pendraw.

Beth arall all pobl sy’n defnyddio’r disgrifiad sain ei ddisgwyl?

Bydd cyflwyniad cyn y sioe efo aelod o dîm Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru, a fydd yn rhoi cyfle i bobl archwilio rhai gwisgoedd a chael ymdeimlad o’r tri darn dawns. Mae’n siŵr o fod yn noson wych i bawb! Edrychwn ymlaen at eich croesawu.

Mae atebion Alastair hefyd ar gael ar fformat sain yma.

“Rydym yn teimlo’n gryf iawn am wneud ein gwaith yn fwy hygyrch,” meddai Matthew Robinson, Cyfarwyddwr Artistig, CDCCymru. “Rydym ni wedi gweithio gyda dehonglwyr iaith arwyddion Prydain ar deithiau blaenorol i wella’r profiad i gynulleidfaoedd Byddar a thrwm eu clyw ac rydym yn falch o allu cynnig disgrifiad sain hefyd yn ystod y daith hon.”

“Rydym ni eisiau dysgu. Rydym ni’n croesawu sylwadau gan yr aelodau hynny mewn cynulleidfaoedd sy’n defnyddio’r darpariaethau mynediad. Rhowch wybod i ni am eich profiad a sut y gallwn ni barhau i wella’r hyn a wnawn.”

Mae Sioe Law yn Llaw CDCCymru yn driawd o ddawns sy’n mynd â chi o faes chwarae gwyllt, rhyfeddol i gymuned lofaol Gymreig mewn un noson. Mae’n ein hail-gysylltu ni â’n theatrau, ein hunain a’n gilydd, Law yn Llaw. Ar daith yng Nghymru a Lloegr hyd 16 Mai.

BSL a Disgrifiad Sain ar daith ‘Law yn Llaw’ yng Nghymru: CDCCymru Law yn Llaw – Triawd Dawns mewn Noson Caerdydd | Theatr y Sherman 26 Ebrill 7.30pm (Disgrifiad Sain) shermantheatre.co.uk Abertawe | Canolfan Celfyddydau Taliesin 28 Ebrill 7.30pm (BSL) taliesinartscentre.co.uk

CDCCymru Darganfod Dawns – I ysgolion a theuluoedd Caerdydd | Tŷ Dawns CMC 20 Mai 6.30pm/21 Mai 1pm (BSL) dancehouse.wales Abertawe | Canolfan Celfyddydau Taliesin 29 Ebrill 1pm (BSL) taliesinartscentre.co.uk