a video tape saying zoo tv

CDCCymru yn rhan o raglen ZOOTV Gŵyl Fringe Caeredin am yr ail flwyddyn

Mae Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru (CDCCymru) yn falch iawn o fod yn rhan o raglen ZOOTV Gŵyl Fringe Caeredin eto'r haf hwn, gan ganiatáu i fwy o gynulleidfaoedd digidol weld y cwmni'n dawnsio o lle bynnag y maent yn gwylio yn y byd.

Mae Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru ar fin cynnal ei berfformiadau byw cyntaf ers mis Mawrth 2020, gyda pherfformiadau awyr agored ledled Cymru, yn dechrau yn Chapter (Caerdydd) ar 6 Awst cyn teithio i Ganolfan y Celfyddydau, Aberystwyth, Theatr Clwyd (yr Wyddgrug) a Pontio (Bangor). Ni fydd cynulleidfaoedd digidol yn colli allan gan y bydd y perfformiad awyr agored yn rhan o raglen ZOOTV Gŵyl Fringe Caeredin rhwng 18 a 29 Awst.

Mae'r perfformiad digidol llon, 30 munud o hyd, yn cynnwys dau ddarn dawns byr a grëwyd gan ddawnswyr CDCCymru, Ed Myhill a Faye Tan. Mae 'Why Are People Clapping!?' gan Ed Myhill yn ddarn dawns clyfar, doniol a chalonogol. Wedi'i osod i 'Clapping Music' gan y cyfansoddwr Steve Reich, mae'n defnyddio rhythm fel sbardun gyda dawnswyr yn clapio, stampio a neidio i greu'r trac sain. Mae'n llawn wynebau doniol a thapio troed llon.

Mae 'Moving is everywhere, forever' gan Faye Tan yn gerdd foddhaus i'r weithred o ddawnsio; gwahoddiad i ildio i'r awydd cryf i symud i gerddoriaeth y trac sain gan y ddau artist cerddoriaeth electronig o Gymru, Larch.

Mae CDCCymru wedi ymrwymo i barhau â'r gwaith digidol a greodd yn ystod y pandemig a gwneud yn siŵr bod y gwaith mor hygyrch â phosibl i'r gynulleidfa ehangaf bosibl. 

"Cafodd Tundra, Marcos Morau dderbyniad da iawn ar ZOOTV yr haf diwethaf, gan gyrraedd cannoedd o bobl ar draws y byd, o Awstralia i Singapôr, felly pan ofynnwyd i ni a oeddem eisiau cymryd rhan eto eleni, bachom ar y cyfle. Wrth i ni ddechrau ymddangos o'r pandemig, rydym yn gobeithio y bydd ein cynulleidfaoedd ar-lein newydd yn parhau â'u taith ddigidol gyda ni, felly mae'n wych y bydd ein taith awyr agored yn cael ei gweld gan gynulleidfa fyd-eang, yn ogystal ag mewn sioeau byw yng Nghymru," eglura Paul Kaynes, Prif Weithredwr.

"Mae'n wych bod yn rhan o raglen sy'n amlygu doniau arbennig o bob cwr o'r DU, a chyflwyno gwaith coreograffwyr wedi'u lleoli yng Nghymru oddi mewn iddi."

Ers dechrau'r pandemig, mae cynulleidfa ddigidol CDCCymru wedi cynyddu'n sylweddol, gan ddenu cynulleidfa newydd ar gyfer sioeau wedi'u harchifo yn ogystal â chynnwys byw a grëwyd ar gyfer y llwyfan ar-lein yn benodol. Gall cynulleidfaoedd barhau i ddal i fyny gydag unrhyw beth y gallent fod wedi'i golli ar Hyb Digidol y Cwmni www.ndcwales.co.uk/digital-hub

Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru: Bydd Perfformiadau Awyr Agored ar ZOOTV rhwng 18 a 29 Awst. Hefyd, bydd perfformiadau byw yn Chapter (Caerdydd) - 6 a 7 Awst; Canolfan y Celfyddydau, Aberystwyth - 10 ac 11 Awst; Theatr Clwyd (yr Wyddgrug) - 13 Awst; a Pontio (Bangor) - 14 Awst.  Gellir dod o hyd i docynnau a gwybodaeth yn www.ndcwales.co.uk