Rob wearing a AR headset

Clwstwr

 

Ym mis Medi 2019, CDCCymru oedd un o 23 o sefydliadau i dderbyn cyllid gan Clwstwr; rhaglen pum mlynedd i greu gwasanaethau a phrofiadau digidol ar gyfer y sgrin.

Mae arbenigwyr dawns a thechnoleg wedi cydweithio gyda CDCCymru i greu a phrofi ffyrdd newydd o wneud profiadau dawns gan ddefnyddio technolegau realiti haenog.

Estynnwyd gwahoddiad i bobl brofi a chymryd rhan mewn straeon dawns a oedd yn anelu at newid y berthynas draddodiadol rhwng y perfformiwr a'r gynulleidfa a chysylltu pobl gyda'u corff eu hunain.

Archwiliodd ein prosiect Moving Layers y defnydd o realiti estynedig (AR) gyda dawns.

Roeddem am wneud prosiect ymchwil a datblygu yn seiliedig ar ddawns a oedd yn edrych ar sut y gallai technolegau realiti estynedig effeithio ar berthnasoedd a ffurfiwyd trwy ddawns. Roeddem yn teimlo y gallai wella profiadau cynulleidfa o ddawns, neu sicrhau profiadau cynulleidfa newydd o ddawns (y berthynas rhwng y gynulleidfa a'r perfformiwr). Roeddem hefyd eisiau archwilio sut y gallai perfformwyr weithio gyda'i gilydd gan ddefnyddio technoleg realiti estynedig (y berthynas rhwng y perfformiwr a'r perfformiwr).

Darllen Mwy yn Clwstwr:

CLWSTWR - PERSBECTIF: CYFUNO TECHNOLEG A DAWNS GYDA MOVING LAYERS

PAUL KAYNES - DEFNYDDIO REALITI ESTYNEDIG MEWN DAWNS I WELLA PROFIADAU CYNULLEIDFAOEDD A PHERFFORMWYR GYDA CLWSTWR

 

Adolygiadau

"Yn eithaf annisgwyl, mae'r prosiect wedi arwain at symudiad gwirioneddol ddwys tuag at ddigidol.

Rydym bellach yn gweld ac yn deall y potensial ar gyfer datblygu cynulleidfa yn y maes hwn. Rydym yn gweithio gyda chynhyrchydd digidol i ddatblygu ein gwaith mewn ffyrdd eraill sy'n manteisio i’r eithaf ar wahanol ddulliau digidol. Nid wyf yn credu y byddem wedi cyrraedd fan hyn mor gyflym ag rydym, oni bai am y profiad hwn."

Paul Kaynes 

Galeri
dancer hand forward towards the camera
Folu gazing at the light
someone back to the camera wearing the glasses
someone sitting on the floor looking up wearing the glasses