3 dancers outside smiling under blue skies

Coreograffwyr sy’n gweithio o Gymru’n creu perfformiadau dawns byrion a fwriedir ar gyfer perfformiadau awyr agored yr haf hwn.

Mae Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru (CDCCymru) wedi dychwelyd i’r ystafell ymarfer i greu dau ddarn o waith dawns a fydd gobeithio’n ffurfio perfformiad awyr agored awr o hyd ar gyfer yr haf eleni.

Mae dau lais dawns cyffrous o Gymru - y dawnsiwr a’r coreograffydd o Gastell-nedd, Thomas Carsley, a’r dawnsiwr a’r coreograffydd sy’n gweithio o Gaerdydd, Ed Myhill, wedi bod yn gweithio gyda dawnswyr cwmni CDCCymru i greu dau ddarn i’w perfformio’n benodol mewn lleoliadau yn yr awyr agored ledled Cymru.

Mae Thomas Carsley yn enillydd rownd derfynol Street Dance BBC Young Dancer of the Year yn 2019, a bydd ei ddarn dawns newydd Fan The Flames yn arddangos ei arddull o gyfuno symudiadau stryd a hip-hop gyda dawns gyfoes.

Ysbrydolwyd Fan The Flames o brofiadau a gafwyd yn ystod y cyfyngiadau dros y 12 mis diwethaf. Gan ganolbwyntio ar dri chymeriad, mae Fan The Flames yn dilyn bywyd gweithiwr swyddfa blinedig a rhwystredig; y myfyriwr ynysig a’r gŵr sy’n byw ar ei ben ei hun, sydd oll yn dod ynghyd i oresgyn eu profiadau yn y pandemig. Mae’r darn dawns pwerus, atseiniol ac emosiynol hwn yn cynnwys cerddoriaeth newydd gan y cyfansoddwr Eric Martin Kamosi.

Dywedodd Thomas Carsley, “Rwyf wedi mwynhau pob eiliad yn gweithio gyda’r dawnswyr yn yr ymarfer ac yn yr awyr agored. Mae gwreiddioldeb yn perthyn i’w crefft a dyna sy’n eu gwneud nhw’n unigryw. Bu’n her i mi sicrhau bod symudiad yn hygyrch ar gyfer amgylcheddau awyr agored, ond llwyddodd y dawnswyr a minnau i ganfod ffyrdd i oresgyn pob rhwystr wrth arbrofi gyda gwahanol adrannau tra'r oeddem allan ar y glaswellt. Bu gwneud symudiadau gyda phropiau hefyd yn llawer o hwyl ac roedd yn braf gweld y dawnswyr yn treulio eu hamser sbâr yn gwneud symudiadau a datblygu eu syniadau a’r tasgau a roddwyd iddynt eisoes.”

Yn ogystal â chreu perfformiad dawns newydd, mae CDCCymru wedi bod yn ailweithio eu darn enwog, Why Are People Clapping!? ar gyfer yr awyr agored.  Mae ‘Why Are People Clapping!?’ gan Ed Myhill yn ddarn dawns i godi ysbryd, yn ddigrif a chlyfar sydd wedi'i osod i ‘Clapping Music’ gan Steve Reich ac mae'n defnyddio rhythm fel grym ysgogi. Mae'r dawnswyr yn clapio, yn stampio ac yn neidio i greu'r trac sain byw.  Mae’r cyfan yn 13 munud hwyliog ac yn llawn tynnu ‘stumiau a thapio traed.

Dywedodd Ed Myhill, dawnsiwr CDCCymru a’r un a greodd Why Are People Clapping!?, bu’r gwaith o addasu Why Are People Clapping!? yn broses heriol ond cyffrous. Bu’n rhaid i ni ail-fowldio ein hunain i ffitio i mewn i rywbeth a fydd yn cynnig amgylcheddau mwy agored ac anwadal. Heb ein gallu arferol i ddefnyddio golau a sain, yn ogystal ag agor dwy ochr arall i’r gynulleidfa fedru gwylio, bu’r gwaith creadigol yn heriol o ran sut i ailosod y darn hwn. Er y bu cyfyngiadau mewn rhai rhannau, cefais fy ngorfodi i fynd ar drywydd gwahanol a ddatgelodd rhai posibiliadau eraill gwych ac mae’n deimlad cyffrous gallu cydweithio â’r dawnswyr i ddatgelu’r syniadau hyn. Rwyf wrth fy modd bod llwyfannu’r gwaith ar gyfer yr awyr agored wedi bod hyd yn oed yn fwy o hwyl a sbri.”

O fewn y ddau berfformiad bydd cyfle i’r gynulleidfa gymryd rhan a dysgu rhai enydau o’r ddau berfformiad.

Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru: Gobeithir gallu teithio Perfformiadau Awyr Agored ledled Cymru yn hwyr yn yr haf, gyda dyddiad wedi’i gadarnhau yn Theatr Clwyd ar 13 Awst. Cyhoeddir rhagor o ddyddiadau yn nes at yr adeg ac yn unol â chyfyngiadau Llywodraeth Cymru. Mae CDCCymru’n cydweithio â lleoliadau a phartneriaid ac yn cymryd arweiniad gan Ganllawiau Llywodraethau’r DU a Chymru ynghylch gweithgareddau Perfformio a Chyfranogi, ynghyd â chyngor gan Iechyd Cyhoeddus Cymru ynghylch lledaeniad COVID-19.