lea anderson teaching in the studio

Coreograffydd enwog yn creu gwledd ffantastig i'r teulu cyfan ei mwynhau fis Rhagfyr yma yng Nghaerdydd.

Mae Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru yn perfformio ei sioe ddawns deuluol lawn gyntaf erioed gyda diwrnod hwyl i’r teulu a gweithgareddau y gellir eu gwneud gartref a hynny’n rhad ac am ddim.

Mae'r coreograffydd enwog, Lea Anderson MBE wedi bod yn gweithio gyda'r dawnswyr talentog o Gwmni Dawns Cenedlaethol Cymru (CDCCymru) i greu eu sioe gyntaf yn arbennig i deuluoedd, a fydd yn cael ei dangos am y tro cyntaf yng Nghaerdydd ym mis Rhagfyr.

Bydd Zoetrope gan Gwmni Dawns Cenedlaethol Cymru yn ddihangfa hudol, llawn dychymyg i bob oedran. Wedi’i ysbrydoli gan ffair bleser Fictoraidd, syrcas ac animeiddiad cynnar, disgwyliwch weld cast  bach o berfformwyr anhygoel o ddawnus yn neidio ac yn olwyn-droi ar draws y llwyfan wedi'u gwisgo fel tsimpansîaid, madfallod a sgerbydau ac yn symud trwy rithiau hudolus clyfar a gynhyrchir gan olau, sain a gwisgoedd. 

Archebwch Yma

 

a character in various stages of movement like a flip book

Cafodd y perfformiad sy’n parhau am lai nag awr ac a gynhelir rhwng 14 – 16 Rhagfyr yn Y Tŷ Dawns, Canolfan Mileniwm Cymru, ei greu gyda theuluoedd mewn golwg a byddant yn gallu cael profiad o ba mor hudolus y gall theatr fyw fod. Mae'r coreograffydd arloesol enwog, Lea Anderson yn cael ei dathlu am ei gwaith creadigol gwreiddiol sy’n gwneud dawns yn fwy hygyrch a chynhwysol i gynulleidfaoedd, a chafodd MBE yn 2006. Dechreuodd ysbrydoliaeth Lea ar gyfer Zoetrope yn ystod ei chyfnod preswyl yn Amgueddfa Ffilm Bill Douglas, lle cafodd ei swyno gan ddyfeisiau animeiddio cyn-ffilmio fel soetropau – a elwir hefyd yn 'Olwynion Bywyd'. I ddod â'r syniadau hynny i'r llwyfan, mae Lea yn gweithio gyda'r dylunydd Simon Vincenzi i greu cast o greaduriaid gwych o wahanol gyfnodau yn hanes esblygiad gyda gwisgoedd yn seiliedig ar y darluniau du a gwyn a ddefnyddir mewn peiriannau söetrop. Mae'r cast yn newid gwisg ar y llwyfan, gyda  gwisgoedd beiddgar sy'n cynrychioli esblygiad dyn yr holl ffordd o'r gell gyntaf, i fadfallod a masgiau mwnci i benwisgoedd wedi'u hysbrydoli gan atomau ac yn y pen draw  i fysedd esgyrnog hir a phennau sgerbwd lle mae'r olwyn fywyd honno’n dod i ben, cyn dechrau eto.   

Lea oedd cyd-sylfaenydd a chyfarwyddwr artistig cwmnïau Cholmondeleys a The Featherstonehaughs  a  sefydlwyd yn y 1980au. Ers hynny, mae wedi teithio'n helaeth ledled y DU a thramor. Roedd y cwmnïau’n adnabyddus am eu gwaith arloesol mewn mannau a lleoliadau nad ydynt yn rhai theatrig - fel y gwelodd rhai rhieni ac efallai rhai neiniau a theidiau ar hyd a lled Caerdydd a De Cymru fwy na dau ddegawd yn ôl.

"Dydw i ddim yn siarad i lawr gyda phobl iau, oherwydd maen nhw’n union fel fi. Rwyf bob amser yn creu gwaith yr hoffwn i ei weld ... Mae rhywbeth ynddo i bawb... Rwyf wedi ceisio gwneud rhywbeth sy'n agored iawn a llawn hwyl".

Nid perfformiad yn unig yw Zoetrope mae diwrnod hwyl rhad ac am ddim i deuluoedd wedi’i drefnu ar gyfer Sadwrn 16 Rhagfyr hefyd ynghyd â gweithgareddau a fydd yn cael eu cynnal cyn y perfformiad olaf yn y Tŷ Dawns, Canolfan Mileniwm Cymru.   Gellir mynychu’r Diwrnod Hwyl i'r Teulu ar thema  Zoetrope yn rhad ac am ddim gyda thocynnau a brynwyd ar gyfer y sioe,  lle gall plant wneud eu söetrop eu hunain, dysgu sut i jyglo, rhoi cynnig ar ddawnsio rhuban a hyd yn oed ddysgu cyfres o symudiadau o'r sioe, cyn mwynhau'r perfformiad gyda'i gilydd.  

Bydd rhieni hefyd yn cael gallu cael taflenni gweithgareddau hwyliog ac amrywiol am Söetrop i'w cwblhau gartref, tra bydd ysgolion yn cael cynlluniau gwersi hyblyg arbenigol sy'n ymgorffori pynciau amrywiol fel gwyddoniaeth a chelf, yn ogystal â dawns, sydd bellach yn rhan o'r Cwricwlwm Cenedlaethol i Ysgolion Cymru.

"Zoetrope yw'r wledd berffaith i'r teulu," meddai Maris Lyons, Cynhyrchydd Ymgysylltu CDCCymru. "Mae’r hyn yr ydym yn ei gynnig yn ymestyn y tu hwnt i'r sioe, gyda gweithgareddau am ddim i'r teulu yn digwydd drwy'r prynhawn yn Y Tŷ Dawns. I deuluoedd sydd eisiau dawnsio, rydym yn cynnig sesiwn ddawns deuluol am ddim lle byddwch yn gallu dysgu rhywfaint o'r coreograffi o'r sioe. Mae'r awr hon o hwyl dawns ar gyfer pob oedran a lefel ffitrwydd. Rydyn ni hefyd yn cynnig cyfle i aelodau'r gynulleidfa roi cynnig ar wneud eu Söetrop eu hunain hefyd, felly os ydych chi'n mwynhau celf a chrefft mae hwn yn gyfle gwych i chi wneud rhywbeth a mynd ag ef adref ar gyfer y Nadolig!"

Dywedodd Paul Kaynes, Prif Weithredwr, "Mae Lea Anderson yn creu sioeau dawns sy'n llawn hwyl ac yn hygyrch – ac mae gan Zoetrope yr holl nodweddion hyn yn benodol ar gyfer teuluoedd ac ysgolion. Mae mor bwysig i ni fod y profiad hwn yn hygyrch ac yn fforddiadwy i deuluoedd yng Nghymru ar hyn o bryd, a dyna pam rydyn ni wedi creu'r diwrnod hwyl i'r teulu yn rhad ac am ddim fel y gall teuluoedd gael diwrnod cyfan allan ochr yn ochr â pherfformiad. Rydym yn gobeithio y bydd cynifer o gynulleidfaoedd ag sy’n bosib yn dod i’w weld yma yng Nghaerdydd cyn iddo deithio ar draws y DU y flwyddyn nesaf.

Bydd Zoetrope yn y Tŷ Dawns, Canolfan Mileniwm Cymru, Caerdydd 14-16 Rhagfyr. Pris tocynnau yw £12 a £6 i rai dan 26 oed. Cynhelir Perfformiadau a Ddisgrifir â Sain ar ddydd Gwener 15 a dydd Sadwrn 16 Rhagfyr.

Cefnogir Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru gan Gyngor Celfyddydau Cymru a Llywodraeth Cymru.

Gellir dod o hyd i wybodaeth archebu yn ndcwales.co.uk