Image of a school group dancing in a sports hall and dancer matteo

Creu Gyda’n Gilydd, ym Mhenrhys

Bydd cyllid Cysylltu a Ffynnu gan Gyngor Celfyddydau Cymru yn galluogi grŵp o artistiaid llawrydd i weithio gyda phartneriaid lleol ac aelodau’r gymuned ar brosiect cyd-greu, Creu Gyda’n Gilydd, ym Mhenrhys a chyffiniau Rhondda Cynon Taf, gyda’r prif artist, Matteo Marfoglia.

Mae’r prosiect yn gydweithrediad rhwng partneriaid celfyddydol a phartneriaid nad ydynt yn gelfyddydol gan gynnwys Cymdeithas Dai Trivallis, Tempo Time Credits, Cymunedau Digidol Cymru, Celfyddydau Gwirfoddol Cymru, Rhwydwaith Cyd-gynhyrchu Cymru, National Theatre Wales, Gwasanaeth Celfyddydau Rhondda Cynon Taf Arts Service a Hyrwyddwyr Cymunedol, Ysgol Gynradd Penrhys ac Eglwys Unedig Llanfair. Mae’r prosiect yn gwneud llawer o artistiaid llawrydd yn geffylau blaen, o fewn dawns a ffurfiau celfyddydol eraill.   

Sefydlwyd Creu Gyda’n Gilydd gan ymchwil creadigol Artist Cyswllt CDCCymru, Matteo Marfoglia, wnaeth ymweld â Phenrhys gyntaf yn 2018 yn rhan o Ddyfarniad Cymru Greadigol a ariannwyd gan ACW. Cafodd cryfder y gymuned argraff ar Matteo, yn ogystal â’r synnwyr o berthyn i le a gwydnwch a welodd. Bu i ddyheadau Matteo am brosiect celfyddydau ystyrlon arwain at fuddsoddiad dros y ddwy flynedd ddiwethaf gan CDCCymru a Theatr Genedlaethol Cymru i ddatblygu ei ddealltwriaeth o’r gymuned, archwilio partneriaid posibl ac ennyn diddordeb o du mewn i’r gymuned ar gyfer prosiect hirdymor.  

“Rydw i wrth fy modd ag ymagwedd Matteo oherwydd y ffordd y mae’n dod â sensitifrwydd artist a pharch go iawn at yr adnoddau yn y gymuned ei hun.” Miranda Ballin, Cyfarwyddwr Artistig Sparc, Valleys Kids. 

Mae gwaith Matteo wedi arwain at gais Cysylltu a Ffynnu llwyddiannus i fod y prif artist ar Creu Gyda’n Gilydd: nod y prosiect yw uno rhanddeiliaid lleol, ymarferwyr creadigol a’r gymuned i archwilio, gyda’i gilydd, eu gobeithion, anghenion a dyheadau beunyddiol drwy ddefnyddio ystod o ffurfiau celf fel dulliau ar gyfer hunanrymuso a newid cymdeithasol.   

“Mae’r tîm yn CDCCymru yn hollol ymwybodol pa mor bwysig yw gwrando a gweithio’n agos gyda’r gymuned leol, a bod yn hyblyg o ran ymgysylltiad.” Sharon Rees, Gweithiwr Addysg, Eglwys Unedig Llanfair.   

Mae CDCCymru yn falch o gael cyfle i weithio ar ddatblygu model o gyd-greu ar gyfer cymunedau Rhondda Cynon Taf, sy’n rhoi eu creadigrwydd a’u dyheadau wrth wraidd y prosiect.  

Os hoffech ddysgu rhagor am y prosiect Creu Gyda’n Gilydd cysylltwch â Guy O’Donnell, Cynhyrchydd Dysgu a Chyfranogiad, CDCCymru. guy@ndcwales.co.uk 

Diweddarwyd ar ddydd Gwener 16 Gorffennaf 2021