Paul Kaynes and Alison Thorne

Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru (CDCCymru) yn penodi Alison Thorne yn Gadeirydd yr Ymddiriedolwyr

Mae Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru (CDCCymru) wedi cyhoeddi penodiad Alison Thorne fel Cadeirydd newydd Bwrdd yr Ymddiriedolwyr ar ôl proses recriwtio agored a gynhaliwyd yn gynharach yr haf hwn. Bydd Alison yn cymryd drosodd gan Jane McCloskey a gamodd i lawr o’r rôl yn gynharach eleni ar ôl 5 mlynedd.  

Magwyd Alison yng Nghaerdydd, a datblygodd gyrfa mewn manwerthu gyda nifer o gwmnïau mawr gan gynnwys Asda, Lego, B&Q a Mothercare gan fynd o swyddi prynu a marchnata i swydd Cyfarwyddwr Gweithredol. Bellach mae ganddi ei chwmni ei hun o’r enw atconnect, sy’n gwmni datblygu pobl a hi yw arweinydd Cymru ar gyfer ‘Menywod ar Fyrddau’. 

‘Rwy’n dod o deulu sy’n dawnsio ac rwy’n angerddol am ddathlu Cymru yn lleol ac ar lwyfan y byd, mae’n bleser mawr gennyf ymuno â Chwmni Dawns Cenedlaethol Cymru. Gyda diolch i Jane McCloskey, y cadeirydd blaenorol, byddaf yn gweithio gyda thîm bwrdd talentog. Ein ffocws fydd galluogi dawns i fod yn rym ar gyfer newid cadarnhaol.’ Alison Thorne, Cadeirydd yr Ymddiriedolwyr, Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru. 

Mae ei rolau anweithredol presennol yn cynnwys llywodraethwr Prifysgol Metropolitan Caerdydd, aelod o fwrdd Chwaraeon Cymru, aelod panel annibynnol ar gyfer Penodiadau Cyhoeddus i Lywodraeth Cymru, ac mae’n Gyn-gadeirydd Chwarae Teg. 

Mae Alison yn ymuno â'r Cwmni wrth iddo gychwyn ar ei dymor o ddigwyddiadau 2022/23 o'r enw NOW | NAWR, cymysgedd cyffrous o gomisiynau newydd, cydweithrediadau a theithiau ledled y DU ac yn rhyngwladol. 

Mae CDCCymru yn diolch i Jane McCloskey am ei gwaith caled, ei hymroddiad a’i chyfraniad i CDCCymru fel Cadeirydd dros y pum mlynedd diwethaf. 

Dywedodd y Prif Weithredwr, Paul Kaynes, “Rydym yn falch iawn bod Alison yn ymuno â ni fel Cadeirydd yr Ymddiriedolwyr. Mae ei brwdfrydedd dros ddawns fel ffurf ar gelfyddyd, ynghyd â’i dealltwriaeth o farchnata a gwerthu ynghyd â’i phrofiad ar fyrddau yn golygu mai hi yw’r ymgeisydd delfrydol. Rydym yn falch iawn i fod yn gweithio gyda hi a'r ymddiriedolwyr eraill i sicrhau bod dawns yn cyrraedd hyd yn oed mwy o bobl ledled Cymru a'r byd. Hoffem hefyd dalu teyrnged i Jane McCloskey sydd wedi llywio’r Bwrdd mor fedrus ac wedi gweithio mor agos gyda ni ers 2017.’ 

 

Llun: Paul Kaynes a Alison Thorne (Simon Gough Photography)