header image of four new board members Martin, Cath, Tupac and Krystal

Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru’n penodi pedwar ymddiriedolwr newydd

Mae Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru (CDCCymru) yn falch o gyhoeddi penodiad pedwar ymddiriedolwr newydd. Mae Cathryn Allen, Martin Hylton, Krystal S. Lowe a Tupac Martir yn ymuno â’r bwrdd ar unwaith a byddant yn helpu i arwain y cwmni wrth iddo adael heriau Covid 19 ar ôl.

Mae Cathryn Allen yn dod â 27 mlynedd o brofiad mewn sawl rôl o fewn y BBC i’r bwrdd, ac mae hi nawr yn rhedeg ei busnes ei hun, Creating Answers, fel ymgynghorydd arwain. Mae hi hefyd yn uwch hyfforddwr yn gweithio ar draws y sectorau cyhoeddus, preifat a’r trydydd sector, ac mae hi’n fentor ar gyfer Women in Film & Television UK. Bydd Cath hefyd yn ehangu’r nifer o siaradwyr Cymraeg ar y bwrdd.

Mae Martin Hylton yn arweinydd proffil uchel yn y gymuned ddawns. Ar ôl gyrfa fel dawnsiwr yn gweithio ledled Ewrop, mae Martin wedi gweithio a pherfformio gydag amrywiaeth o gwmnïau yn y DU, gan gynnwys Theatr Dawns Phoenix, ac mae wedi meithrin cysylltiadau cryf o fewn y diwydiant. Martin yw sefydlydd a Chyfarwyddwr Artistig/Prif Swyddog Gweithredol Gateway Studio, elusen ddawns a chelfyddydau sydd wedi'i lleoli yng nghanol Tref Gateshead.

Mae'r dawnsiwr, coreograffydd a'r awdur Krystal S. Lowe, sydd wedi’i geni yn Ynysoedd Bermwda, ond yn byw yng Nghymru, wedi cael gyrfa helaeth yn perfformio ac yn teithio gyda Ballet Cymru ledled y Deyrnas Unedig, Tsieina a Bermwda, gyda chwmni syrcas Citrus Arts a Ransack Dance Company. Mae hi hefyd yn ddarlithydd cyswllt ym Mhrifysgol De Cymru ac yn Gyfarwyddwr Artistig Kokoro Arts Ltd.

Mae Tupac Martir yn Artist a Sefydlydd Satore Studio. Mae’n artist amlgyfrwng, ac mae ei waith yn cwmpasu meysydd technoleg, golau, tafluniau a fideo, dylunio sain, cerddoriaeth, a chyfansoddi, yn ogystal â choreograffi a gwisgoedd. Mae Vogue wedi’i ddisgrifio fel ‘y dylunydd gweledol a chyfarwyddwr creadigol y tu ôl i rai o’r digwyddiadau pwysicaf yn y byd'. 

 “Rwy’n falch iawn o groesawu pedwar ymddiriedolwyr newydd i’n Bwrdd ar adeg mor bwysig a chyffrous yn natblygiad y Cwmni. Mae Krystal, Cath, Tupac a Martin yn gwella ac yn ategu cryfder ac amrywiaeth ein Bwrdd gydag ystod ddynamig o leisiau i gefnogi ein datblygiad.” Jane McCloskey, Cadeirydd Bwrdd Ymddiriedolwyr CDCCymru.

Amrywio’r unigolion sy’n eistedd ar fwrdd ymddiriedolwyr yw un o brif amcanion CDCCymru i fynd i'r afael ag anghydraddoldeb yn y sefydliad, yn y celfyddydau ac yng Nghymru. Mae'r pedwar aelod newydd yn ymuno â'r ymddiriedolwyr presennol Jane McCloskey (Cadeirydd), Eleanor Chapman, Giovanni Basileti, Huw Davies a William James. Maent yn dod ag amrywiaeth o gefndiroedd a phrofiadau gyda nhw a fydd yn helpu'r Cwmni i adlewyrchu'n well y cymunedau y mae'n gweithio gyda nhw.