Colourful arch called Breathing Room designed by Anna Berry

CYDWEITHIO AG UNLIMITED I GYNNIG GWOBRAU I ARTISTIAID ANABL

Mae Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru (CDCCymru) yn un o 17 o sefydliadau yn y DU sy’n gweithio mewn partneriaeth ag Unlimited i gynnig 20 gwobr i artistiaid anabl. Bydd y gwobrau hyn yn cynnig cyfanswm o £584,000 i gomisiynu artistiaid ar lefel genedlaethol a rhyngwladol.

Fel y corff mwyaf yn y byd i gomisiynu artistiaid anabl, mae Unlimited wedi bod yn cefnogi artistiaid anabl ers 2013. Ym mis Ebrill 2022 daeth Unlimited yn sefydliad annibynnol a chanddo genhadaeth i gomisiynu gwaith rhagorol gan artistiaid anabl hyd nes y bydd y sector diwylliant cyfan yn gwneud hynny. Yn ei flwyddyn gyntaf fel sefydliad annibynnol, mae Unlimited yn gwneud pethau’n wahanol i chwalu’r rhwystrau mae artistiaid anabl yn eu hwynebu, ac i gefnogi newid systemig a chynaliadwy.

Bydd y gwobrau yn rhoi cyfle i artistiaid anabl ddatblygu a chyflwyno gwaith ledled y DU a/neu yn rhyngwladol, mewn lleoliadau gwledig a dinesig, gyda sefydliad partneriaeth, yn ddigidol neu wyneb yn wyneb, ar gyfer profiadau torfol neu unigol.

“Rydym ar ben ein digon o gael gweithio gydag Unlimited ar y comisiwn ymchwil a datblygu hwn. Fel cwmni, rydym yn noddfa i nifer o leisiau allu mynegi ac archwilio ystyr sut beth yw bywyd heddiw, yng Nghymru a’r byd ehangach. Edrychwn ymlaen at ddatblygu gwaith dawns rhagorol gyda’n partner, sy’n herio ac yn newid safbwyntiau, a manteisio ar y cyfle hwn i ddysgu gan safbwyntiau unigol artistiaid.” Matthew Robinson, Cyfarwyddwr Artistig, Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru

Gellir dod o hyd i’r holl wybodaeth am y cyhoeddiad heddiw, a manylion sut i gyflwyno cais, yma. Bydd y ceisiadau’n agor ddydd Mawrth 4 Hydref ac yn cau ddydd Llun 31 Hydref 2022. 

Llun: Breathing Room by Anna Berry
Credit: Andre Pattenden