three dancers from ndcwales, ballet cymru and nydwales

Cydweithrediad Cenedlaethol Newydd I Gryfhau Dawns Ieuenctid Yn Nghymru

Mae tri sefydliad dawns blaenllaw wedi nodi carreg filltir bwysig yng nghelfyddydau Cymru trwy arwyddo memorandwm cyd-ddealltwriaeth, mewn ymgais i gefnogi twf dawns yng Nghymru.

Mae Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru, Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru, a Ballet Cymru wedi dod at ei gilydd i alluogi ymgysylltiad dawns ieuenctid cryfach a chyfranogiad ledled y wlad.

Gan gynrychioli ymdrech unedig, bydd y gynghrair strategol hon yn sefydlu fframwaith cynhwysfawr ar gyfer darpariaeth dawns ieuenctid ledled y wlad. Drwy gyfuno eu hadnoddau a'u harbenigedd, bydd y sefydliadau'n creu seilwaith cadarn a chynhwysol sy'n meithrin twf dawns ieuenctid yng Nghymru. 

Bydd hyn yn sicrhau bod pob agwedd ar eu cynigion yn canolbwyntio ar hygyrchedd, cynhwysiant, ansawdd, a chyfleoedd datblygu a pherfformiad pellach. Mae hyn, yn ei dro, yn gosod dawns ieuenctid fel rhan annatod o hunaniaeth ddiwylliannol Cymru.

Mae llofnodi'r memorandwm cyd-ddealltwriaeth yn nodi eiliad ganolog yn y daith gydweithredol i gefnogi a chryfhau'r dirwedd ddawns yng Nghymru. Gydag ymrwymiad ar y cyd i feithrin talent a meithrin cynwysoldeb, bydd y gynghrair yn gosod y sylfaen ar gyfer twf cynaliadwy ac arloesedd mewn mentrau dawns ieuenctid ledled y wlad.

Dywedodd Prif Weithredwr Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru, Evan Dawson: "Yn Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru, rydym ni’n gyffrous iawn am gael perthynas agosach fyth â Ballet Cymru a Chwmni Dawns Cenedlaethol Cymru."

"Gan weithio gyda'n gilydd a gyda'r sector dawns ehangach, rydym ni am ddarparu cyfleoedd creadigol a blaenllaw yn y byd i ddawnswyr ifanc a choreograffwyr. Mae'n gyfnod heriol iawn i bawb sy'n gweithio yn y celfyddydau ar hyn o bryd, ond rydym ni’n hyderus y bydd y cydweithrediad strategol newydd hwn yn helpu'r genhedlaeth nesaf o ddawnswyr i wneud y mwyaf o'r adnoddau sydd gennym wrth gefnogi sefydliadau dawns ar lawr gwlad ledled Cymru hefyd."

Dywedodd Jamie Jenkins, Cynhyrchydd Dawns Ieuenctid Cenedlaethol Cymru: "Bydd y bartneriaeth newydd hon yn chwarae rhan hanfodol wrth helpu i lunio dyfodol dawns ieuenctid ledled Cymru ac ar yr un pryd cefnogi a dathlu darpariaeth dawns ieuenctid sydd eisoes wedi'i sefydlu.  Mae NDCWales, Ballet Cymru a Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru yn cydweithio'n gam i gyfeiriad cadarnhaol."

Dywedodd Cyfarwyddwr Artistig NDCWales, Matthew Robinson: "Mae Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru yn ceisio ysbrydoli a gyrru datblygiad artistiaid yfory drwy'r gwaith rydym ni’n ei wneud ar lwyfannau ac oddi arno. Wrth i ni gychwyn ar y cydweithrediad strategol hwn gyda Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru a Ballet Cymru, mae ein huchelgais ar y cyd ar gyfer pobl ifanc yn fy llenwi ag optimistiaeth ar gyfer y dyfodol. Rydym ni’n edrych ymlaen at weithio gydag artistiaid, athrawon a sefydliadau annibynnol anhygoel Cymru i sicrhau bod ein gwaith rhyng-gysylltiedig yn cael yr effaith fwyaf ar bobl ifanc. Gall artist gwych ddod o unrhyw le, ac rydym ni wedi ymrwymo gyda'n gilydd i alluogi artistiaid ifanc, ble bynnag y bônt yng Nghymru, i lunio dyfodol dawns."

Dywedodd Cyfarwyddwr Artistig Ballet Cymru, Darius James OBE a'r Cyfarwyddwr Artistig Cynorthwyol, Amy Doughty: "Mae Ballet Cymru yn gwmni bale cenedlaethol i Gymru sy'n herio ffiniau a disgwyliadau traddodiadol. Rydym ni’n falch iawn o fod yn gweithio'n agos gyda Dawns Genedlaethol Ieuenctid Cymru a Chwmni Dawns Cenedlaethol Cymru i greu cyfleoedd newydd yn strategol i ysbrydoli a chefnogi ein cenhedlaeth nesaf o ddawnswyr. Mae'r ymdrech gydweithredol genedlaethol hon i ddyrchafu dawns, cynyddu cynhwysiant, a darparu mwy o fynediad i ddawnswyr ifanc ledled Cymru, yn hynod gyffrous."

Dywedodd Laura Drane o Gyngor Celfyddydau Cymru: "Mae croeso cynnes i'r cynlluniau hyn i gryfhau cyfranogiad a mynediad at ddawns ieuenctid. Mae'n gyffrous clywed sut mae'r tri sefydliad cenedlaethol yn bwriadu cydweithredu a rhannu adnoddau, gan ddod â'u blynyddoedd o arbenigedd ynghyd. Bydd y bartneriaeth hon yn helpu i ddatblygu'r sector ac yn effeithio ar deithiau artistig pobl ifanc Cymru."

Ffoto: Sian Trenberth, Jorge Lizalde

Galeri
NDCWales Young Associates
National Youth dance wales dancers on stage
Ballet Cymru dancer leaning backwards