Datganiad ar Ganlyniad Adolygiad Buddsoddiad Cyngor Celfyddydau Cymru

Yr wythnos hon clywsom fod Cyngor Celfyddydau Cymru yn cynnig grant ‘digyfnewid’ i CDCCymru o 2024. Diolch i Gyngor Celfyddydau Cymru am eu cefnogaeth ariannol barhaus, rydym yn ei gwerthfawrogi’n fawr. Rydym yn deall y pwysau ar gronfeydd cyhoeddus felly mae hyn yn cynrychioli buddsoddiad sylweddol yn y dyfodol. Byddwn yn parhau i gyflwyno perfformiadau dawns gwych a chyfleoedd cyfranogiad i bobl Cymru.

Fel cwmni cenedlaethol, edrychwn ymlaen at ymgysylltu’n weithredol yn adolygiad y Cyngor Celfyddydau o’r sector dawns. Rydym yn ymwybodol pa mor rhyng-gysylltiedig yw pawb ohonom, a gobeithiwn y gall ddarparu fforwm ar gyfer gweithredu a newid ar y cyd. Rydym yn croesawu’r buddsoddiad ychwanegol a wnaed mewn sefydliadau, ac mae ein meddyliau gyda’r sefydliadau hynny a dderbyniodd ostyngiad mewn cyllid neu ddim cyllid o gwbl.