Dancers on floor with sparkling black costumes

Dau ddarn o waith dawns corfforol gwefreiddiol fydd yn gyflymu curiad eich calon

Bydd Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru yn perfformio ei sioe ddwbl newydd, Pwls, mewn 10 lleoliad yng Nghymru a Lloegr o fis Mawrth i fis Mai 2023. 

Mae Marcos Morau (a greodd dawns eiconig CDCCymru Tundra) yn dychwelyd gyda Waltz, y ddawns hudolus, odidog a chwim, a bydd Sarah Golding a Yukiko Masui (SAY) yn gwneud i chi eisiau codi a dawnsio gyda Say Something, gwledd weledol a sonig o symudiad a bîtbocsio.   
 
Mae waltz hudolus yn chwarae yn y pellter yn Waltz gan Marcos Morau. Allan o ludw amser daw cwlwm o greaduriaid gloyw i fyw mewn byd newydd. Yn y dryswch a’r cynnwrf eu hunig obaith yw parhau’n unedig. Os wnaethoch chi fwynhau byd coreograffig trydanol Tundra yn 2017, mae hwn yn gyfle arall i brofi gwaith gan Marcos Morau, y coreograffydd arloesol o Sbaen.  
 
“Mae 'Waltz' yn frith o natur gorfforol chwim nodweddiadol Marcos. Mae'n llawn dyluniadau hardd, bydd y dawnswyr wedi'u gorchuddio â secwins, o'u corryn i'w traed, mae'n llawn dirgelwch, yn gyffrous, yn brofiad cwbl bwerus i gynulleidfa sy’n eu tywys drwy rai o’r dawnsfeydd Waltz cerddorol mwyaf mewn hanes.” 
Gan Matthew Robinson, Cyfarwyddwr Artistig CDCCymru 

Mae Say Something gan Sarah Golding a Yukiko Masui (SAY) yn archwilio’r hyn mae’n ei olygu i 'gynrychioli', a’r disgwyliadau cynyddol i ddefnyddio’n lleisiau. Gan weithio gyda’r bîtbocswyr MC Zani a Dean Yhnell, bydd y gwaith newydd hwn yn wledd gorfforol, weledol a sonig diflino. Mae gan SAY frwdfrydedd am gerddoriaeth sydd yn gwneud iddynt eisiau symud. Bydd Say Something yn gwneud i ystafell gyfan ysu i godi a dawnsio.  
 
“Mae Sarah ac Yukiko yn mynd i fod yn cydweithio gyda dau fîtbocsiwr yn cynnwys Dean Yhnell sydd hefyd yn brif artist ar y prosiect creu ar y cyd yr ydym ynghlwm ag o, ym mhentref Penrhys yn Rhondda Cynon Taf. Gall cynulleidfaoedd ddisgwyl gweld dawnswyr CDCCymru yn hedfan o un ben y llwyfan i'r llall mewn symudiad pwerus gafaelgar. Mae Sarah ac Yukiko yn frwd dros y gerddoriaeth sy’n eu gwefreiddio, a chredaf y gall cynulleidfaoedd ddisgwyl bod wedi eu gwefreiddio.” 
Matthew Robinson, Cyfarwyddwr Artistig CDCCymru 
 
Yn ogystal, bydd Darganfod Dawns, sy’n berfformiad hwyliog ac anffurfiol ar gyfer ysgolion a theuluoedd, yn teithio ochr yn ochr â Pwls mewn lleoliadau penodol. Yn cynnwys perfformiad o Why Are People Clapping!? Ed Myhill a’r cyfle i ofyn cwestiynau a dysgu ychydig o symudiadau o'r sioe. 
 
Mae Pwls a Darganfod Dawns yn rhan o NAWR, tymor 22/23 Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru.