One Another title and dancers an orange background

Dod Law yn Llaw – Ar-lein

Ar ôl ymweld â 11 o leoliadau yng Nghymru a Lloegr gyda Law yn Llaw, mae Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru yn rhoi cyfle arall i'w gynulleidfa brofi ei raglen driphlyg, ond y tro hwn, fel tair ffilm wedi'u creu'n arbennig gan Jonathan Dunn - sy'n golygu eich bod yn fwy 'Law yn Llaw' nag erioed o'r blaen.

Mae Wild Thoughts gan Andrea Costanzo Martini yn ddathliad llawen o’n cyrff diddorol – cyn wirioned ag y mae’n fedrus – mae’r gwaith dawns deinamig hwn yn llawn symudiad mentrus ac adegau hynod ddynol sy’n sicr o roi gwên ar eich wyneb.

Nesaf, dewch i ymgolli’ch hun mewn stori bwerus am gymunedau glofaol Cymreig yn dod ynghyd mewn amseroedd anodd. Mae Codi gan Anthony Matsena yn cyflwyno lluniau agos sy’n procio’r cof a thrac sain egnïol gan y cyfansoddwr Lara Agar. Mae’r gwaith dawns cyffrous hwn yn eich tywys chi drwy’r tywyllwch i oleuni.

Yn olaf camwch heb oedi yn ôl i fyd plentyndod wrth i Ludo gan Caroline Finn eich gwahodd i ddianc i faes chwarae dychmygus gwyllt lle nad oes unrhyw beth yn aros yr un fath yn hir iawn. Nid yw mynd yn hŷn yn golygu tyfu i fyny: arhoswch i chwarae â’r gwisgoedd clyfar a’r trac sain gwallgof sy’n cwblhau’r gomedi dywyll hon.

Mae hefyd yn gyfle i brofi Law yn Llaw gyda disgrifiad sain, sy'n bywiogi'r profiad i unigolion sydd â nam ar eu golwg a chynulleidfaoedd dall a rhannol ddall. 

Dysgwch fwy am sut aethom ati i greu ein cynhyrchiad cyntaf gyda disgrifiad sain yn Theatr Sherman gydag Alistair Sill / Word of Mouth yma

Bydd Law yn Llaw yn cael ei ryddhau ar 14 Mehefin a bydd ar gael i'w wylio ar alw am gyfnod cyfyngedig tan 30 Mehefin. Y pris tocyn a awgrymir yw £10, ond cewch dalu'r hyn y gallwch ei fforddio drwy ddewis pris eich tocyn eich hun a gwylio'r ffilm ar adeg sy'n gyfleus i chi. (min. £1)

Bachwch ar y cyfle i brofi llawenydd, rhyfeddod a sgiliau Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru ar-lein, waeth lle ydych chi.

Gwylio o 14 Mehefin