Elli Chapman

Mae gennym newyddion hynod drist i’w rhannu am un o’n hymddiriedolwyr, Elli Chapman. Rydym yn meddwl am ei theulu a’i ffrindiau

Rydym yn drist iawn wedi ni glywed am farwolaeth annisgwyl Eleanor Chapman, a adnabyddir fel Elli.

Roedd Elli yn un o ymddiriedolwyr Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru ers sawl blwyddyn, ac roedd yn hynod hael wrth rannu ei dealltwriaeth a brwdfrydedd arbennig dros y celfyddydau a phobl ifanc. Gyda brwdfrydedd heintus a gallu i rannu ei hysbryd meithringar, helpodd i lywio ein gwaith mewn sawl ffordd. Byddwn i gyd yn ei cholli hi a’i doethineb yn arw.

Roedd rhai ohonom wedi’i gweld ychydig ddyddiau’n ôl yng Ngŵyl y Dyn Gwyrdd, lle’r oedd hi wedi Cynhyrchu Gardd Einstein. Roedd  y ffaith ei bod mor ysbrydoledig yn deyrnged i’w chreadigrwydd a’i dychymyg, yn llawn syniadau newydd a ffyrdd newydd o gysylltu pobl ifanc â gwyddoniaeth a chreadigrwydd.

Rydym yn anfon ein cydymdeimladau dwysaf at ei theulu, ffrindiau a chydweithwyr ledled yr holl sefydliadau amrywiol yr oedd hi ynghlwm â nhw, a oedd yn adlewyrchiad o’i llu o ddiddordebau, ei charedigrwydd a’i gwybodaeth eang. Mawr yw ein dyled a’n diolch iddi.

 

headshot of Elli Chapman