dancers with led lights

Mae Rhydaman ac Ystradgynlais yn paratoi i gael PARTi gyda Chwmni Dawns Cenedlaethol Cymru ym mis Tachwedd

Mae dau leoliad yng Nghymru yn paratoi i gael PARTi gyda Chwmni Dawns Cenedlaethol Cymru (CDCCymru) ym mis Tachwedd. Mae’r cwmni’n cyflwyno profiad dawns newydd sbon o’r enw PARTi, a fydd yn gweld cast cymunedol o’r ardal yn ymddangos ar lwyfannau yn Rhydaman ac Ystradgynlais ochr yn ochr â dawnswyr CDCCymru. 

Bydd cynulleidfaoedd Yn Theatr y Glowyr, Rhydaman a’r Neuadd Les, Ystradgynlais, yn cael profiad o berfformiad unigryw a ddyluniwyd ar gyfer y lleoliad, gyda dawns wrth ei wraidd. Bydd gwaith dawns byr gan Gyfarwyddwr artistig newydd CDCCymru, Matthew Robinson; gwaith newydd sbon gan yr artist dawns o Gastell-nedd, Thomas Carsley (cystadleuydd BBC Young Dancer) a chreadigaeth ar y cyd gan Emily Robinson a pherfformwyr lleol o Rydaman ac Ystradgynlais. Bydd y sioe yn cloi gyda bwyd pori, diodydd a Thwmpath gyda’r grŵp gwerin byw, Allan yn y Fan. 

Yn dilyn galwad am berfformwyr lleol, bu CDCCymru yn gweithio â chast cymunedol o bob cwr o Rydaman ac Ystradgynlais ers mis Awst i greu darn o ddawns newydd sbon yn cynnwys dawnswyr CDCCymru ac a goreograffwyd gan Emily Robinson.   

Dywedodd Emily Robinson, y Coreograffydd sy’n gweithio gyda’r cast cymunedol,  
“Mae hwn yn brosiect unigryw yr wyf yn teimlo’n hynod gyffrous i fod yn gweithio arno fel artist lleol. Yn dilyn dull creadigol ar y cyd, bydd y gymuned yn cael ei rhoi wrth y llyw, gan roi llwyfan i leisiau lleol o bob oed. Gall cynulleidfaoedd ddisgwyl darn egnïol - gafaelgar a chwareus.” 

Mae Thomas Carsley, sy’n enedigol o Gastell-nedd, ac a gyrhaeddodd rownd derfynol cystadleuaeth BBC Young Dancer 2019, wedi bod yn dawnsio ers yn 11 oed. Mae ei arddull ddawns a choreograffi wedi’i hysbrydoli gan y mudiad cyfoes/hip hop. Bydd ei waith newydd ar gyfer CDCCymru, FAN OF FLAMES, sy’n cynnwys tri o ddawnswyr CDCCymru, yn ddawns osgeiddig, egnïol ac emosiynol fydd yn eich ysbrydoli chi i fynd i’r afael â’r dyfodol. 

Yn neuawd newydd Matthew Robinson, NO-SHOW, ceir cyfuniad o gerddoriaeth glasurol a dawnsio cyflym, a chipolwg ar anturiaethau cartŵnaidd dau ffrind yn paratoi am barti. 

Yn ôl Matthew Robinson, Cyfarwyddwr Artistig CDCCymru, “Mae PARTi yn foment wych i ddod ynghyd, i chwerthin, i ddal i fyny, ac i ddawnsio. Rwyf wrth fy modd bod NO SHOW yn mynd i fod yn rhan o’r digwyddiad, mae’n mynd i fod yn noson allan gampus. 

Dywedodd Wynne Roberts, Rheolwr Neuadd Les, Ystradgynlais, 

“Mae hwn yn brosiect hynod gyffrous i ni fod yn rhan ohono. Mae ein cynulleidfaoedd yn awyddus bob amser i weld yr hyn fydd CDCCymru yn ei wneud nesaf, a’r tro hwn gallant fod yn rhan o’r sioe yn ogystal â gweld darnau newydd gan y Cwmni. Mae sioeau blaenorol wedi ysbrydoli cynulleidfaoedd i ystyried yr hyn y gall dawns ei olygu ac ar gyfer pwy. Un peth sy’n ein cyffroi’n benodol yw rhai o’r  newidiadau fydd yn digwydd i’r lleoliad. Bydd cynulleidfaoedd yn camu drwy’r drws ac yn profi noson allan PARTi - bydd y lleoliad yn teimlo’n wahanol i unrhyw beth maent wedi’i weld yma o’r blaen.” 

“Edrychwn ymlaen yn arw at groesawu Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru i Rydaman yr hydref hwn.  Mae PARTi yn argoeli i fod yn ddigwyddiad arbennig wrth iddo ddod â’r gymuned ynghyd ar gyfer profiad llawn hwyl.  Yma yn Theatrau Sir Gâr credwn ei bod yn bwysig i bawb gael y cyfle i brofi profiadau celfyddydol anhygoel ar garreg eu drws a chael rhoi cynnig ar rywbeth newydd.  Drwy weithio â Chwmni Dawns Cenedlaethol Cymru ar y digwyddiad hwn, mawr obeithiwn y gwnaiff y cyfleoedd sydd gan y gymuned i gymryd rhan, i greu, ac i wylio perfformiad dawns yn ysbrydoli pobl a’u cynorthwyo nhw i ddileu unrhyw ragdybiaethau sydd ganddynt nad yw dawns gyfoes at eu dant nhw.” 
Sharon Casey, Rheolwr Datblygu Theatrau 

Bydd PARTi yn Neuadd Les, Ystradgynlais ddydd Sadwrn 12 Tachwedd am 2pm a 7pm, ac yn Theatr y Glowyr, Rhydaman ddydd Sadwrn 19 Tachwedd am 2pm a 7pm. 

Tocynnau

Cefnogir PARTi gan Sefydliad Foyle a Creu CCC – Rhaglen Ariannu Celfyddydau'r Loteri Genedlaethol.