Mario headshot

Mario Manara

Dawnswyr

Cefais fy magu yn yr Eidal a dechreuais ddawnsio o oed ifanc yn Vic Ballet Academy yn Verona ynghyd â pherfformio ar gyfer cwmni theatr lleol. Hyfforddais yn Rambert School of Ballet and Contempary Dance, gan raddio gyda gradd BA (Anrh) dosbarth cyntaf yn 2020. Yn ystod fy nghyfnod yn Rambert School, cefais y cyfle i weithio gyda choreograffwyr gan gynnwys Christopher Bruce (gan berfformio yn Linbury Theatre, Royal Opera House), Max Bruce, Arielle Smith a Thick and Tight. Yn ogystal, cefais y cyfle i berfformio fy ngwaith fy hun yn y Lilian Baylis Studio yn Sadler’s Wells. Yna ymunais â VERVE, y cwmni ôl-raddedig o’r Northern School of Contemporary Dance, yn 2021, gan deithio gwaith Matthew William Robinson, Caroline Finn, Botis Seva a Barnaby Booth.