culture change logo

Newid Diwylliant | Culture Change

Diolch i nawdd o Gronfa Diwylliant, Treftadaeth a Chwaraeon Cymru Gwrth-hiliol a ddarperir gan Lywodraeth Cymru, mae Theatr Genedlaethol Cymru a'r cwmnïau cenedlaethol celfyddydol eraill* yn lansio Newid Diwylliant | Culture Change – sef rhaglen gynhwysfawr sydd â’r nod o drawsnewid y sector gelfyddydol Cymraeg i’w wneud yn wirioneddol gynrychioliadol o'r Gymru gyfoes. 

Bydd Newid Diwylliant | Culture Change yn cynnig fframwaith i drawsnewid y cwmnïau sy’n rhan o’r cynllun i fod mewn sefyllfa well i ddenu a recriwtio pobl o'r mwyafrif byd-eang ar bob lefel ac i allu darparu gweithleoedd a diwylliant sefydliadol cynhwysol – a hynny drwy ddatblygu rhaglen o hyfforddiant a datblygiad sefydliadol.   

Er mwyn sicrhau perthnasedd ac adlewyrchu profiad bywyd y cymunedau yr ydym am eu denu a'u cynnwys yn ein gweithluoedd a'n cynulleidfaoedd, bydd y rhaglen waith yn cael ei gyd-ddylunio gyda’r Gweithgor Cyfeillion Beirniadol – grŵp o bobl o’r mwyafrif byd-eang sy’n derbyn tâl am eu hamser a’u harbenigedd.  

Bydd modd i hyd at 18 sefydliad gymryd rhan yn Newid Diwylliant | Culture Change, a bydd y meysydd gwaith yn cynnwys hyfforddiant i staff a gweithwyr llawrydd (yn cynnwys hyfforddiant gwrth-hiliaeth); adolygiad o arferion gwaith y cwmnïau yn arbennig mewn perthynas ag Adnoddau Dynol a recriwtio; a chyfleoedd i ddatblygu arweinwyr o’r mwyafrif byd-eang.  

Ry’n ni wrthi’n recriwtio Cyfeillion Beirniadol ac yn caffael Gwasanaeth Rheoli Prosiect. Am fwy o wybodaeth am y cyfleoedd yma, dilynwch y dolenni isod: 

Cyfeillion Beirniadol - Ymgeisio yma

Gwasanaeth Rheoli Prosiect - Ymgeisio yma

Am fwy o wybodaeth am y rhaglen, cysylltwch ag Angharad Leefe: Theatr Genedlaethol angharad.leefe@theatr.com  

*Partneriaid sylfaenol y rhaglen hon yw Theatr Genedlaethol Cymru, Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru, National Theatre Wales, Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC, Ffilm Cymru Wales, Llenyddiaeth Cymru | Literature Wales, Canolfan Mileniwm Cymru ac Opera Cenedlaethol Cymru.