Matthew in the rehearsal studio

O Ionawr 2025, bydd Matthew William Robinson yn arwain ZfinMalta

Ym mis Rhagfyr 2024, bydd Matthew William Robinson, Cyfarwyddwr Artistig Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru, yn gadael y Cwmni i arwain ZfinMalta, sef cwmni dawns cenedlaethol Malta, o fis Ionawr 2025.

Ers ymuno â’r cwmni yn 2021, mae Matthew wedi arwain y rhaglen artistig gyda phroffesiynoldeb, sensitifrwydd mawr a gweledigaeth artistig unigryw. Bydd ZfinMalta yn ennill Cyfarwyddwr Artistig gwych a bydd siwrnai broffesiynol ac artistig Matthew yn parhau i ffynnu. Mae Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru yn eithriadol o ddiolchgar i Matthew am ei ymrwymiad a dymunwn y gorau iddo yn y dyfodol.

"Mae gweithio gyda chriw mor wych o bobl yn CDCCymru wedi bod yn fraint enfawr imi. Rydw i’n eithriadol o falch o’r syniadau y llwyddon ni i ddod â nhw’n fyw ar gyfer ein cynulleidfaoedd, y cysylltiadau y llwyddon ni i’w creu a’r uchelgais artistig y gwnaethon ni ei meithrin ynon ni ein hunain ac mewn pobl eraill. Edrychaf ymlaen yn llawn cyffro at weddill y flwyddyn hon a thu hwnt gydag optimistiaeth ar gyfer y cwmni ac ar gyfer dawns yng Nghymru. Diolch i bawb sydd wedi cyfoethogi fy mywyd yma. Mae Cymru yn lle arbennig iawn imi, a bydd yn parhau i fod yn lle arbennig imi am byth."

Matthew William Robinson, Cyfarwyddwr Artistig

“Hoffwn ddiolch i Matthew am ei ysbrydoliaeth a’i ymrwymiad parhaus. Byddwn yn fythol ddiolchgar am ei arweiniad artistig a’i waddol o weithiau uchelgeisiol a gomisiynwyd yn genedlaethol ac yn rhyngwladol ers 2021. Mae Matthew wedi creu corff anhygoel o weithiau, yn ogystal â sicrhau bod gennym gynlluniau cyffrous ar gyfer y dyfodol. Ers iddo ymuno â CDCCymru, mae wedi ymrwymo i gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant, yn ogystal ag ymrwymo i ddatblygu’r grefft a thalentau’r dyfodol. Bydd yn rhan o deulu CDCCymru am byth.”

Alison Thorne, Cadeirydd Bwrdd yr Ymddiriedolwyr

Bydd Matthew yn parhau yn ei swydd tan ddiwedd 2024, gan weithio ar raglen gyffrous a gaiff ei datblygu yn ystod y gwanwyn/haf, a hefyd ar deithiau’r Cwmni yn yr hydref. Bydd y daith yn cynnwys gwaith diweddaraf Matthew, sef ‘AUGUST’, a gaiff ei berfformio am y tro cyntaf ochr yn ochr â ‘Skinners’ gan Melanie Lane, y coreograffydd Awstralaidd/Jafanaidd. Y gaeaf hwn, bydd yn cyfarwyddo cynhyrchiad cydweithredol newydd gyda Theatr Genedlaethol Cymru, sef Dawns y Ceirw, ar y cyd â Steffan Donnelly.

Bydd Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru yn gwneud yn fawr o’r cyfle hwn i adolygu’r strwythur arwain gweithredol a bydd yn rhoi’r broses recriwtio ar waith o fis Mai ymlaen, gan gyhoeddi penodiad parhaol yn ystod Hydref 2024.

 

dancers under blue and red neon lights

Ymarferion Agored gyda Matthew Robinson 
22 Mai 6-7yh 

Buy tickets for National Dance Company Wales

Ymunwch â Matthew Robinson wrth iddo greu’r gwaith nesaf i Gwmni Dawns Cenedlaethol Cymru o’r enw AUGUST

"Wrth i’r haul fachlud newidiodd popeth."

Mae AUSGUST wedi’i ysbrydoli gan fachludoedd. Ennyd rhwng dydd a nos. Gofod rhwng trefn a rhyddid, disgyblaeth a diofalwch.

Wedi’u trochi yn y lliwiau sy’n pylu yn y cyfnos a golau neon llachar y nos, bydd dawnswyr Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru yn troedio tir synhwyrus sy’n hofran rhwng perygl a phrydferthwch.

Mae AUGUST yn ymwneud â sawl diweddglo a ffarwelio. Mae’n ymdrin â’r newidiadau sy’n ein taflu at ein gilydd ac yn ein rhwygo ar wahân.

Diolch yn fawr am eich cefnogaeth barod, rwy’n edrych ymlaen at rannu AUGUST â chi yn yr hydref.

Galeri
two dancers one leaning over, the other backbending across them to create one body with two heads, arms outstretched
two dancers under blue light leaning under a red neon strip
young dancers in red shorts and white t-shirts leaning backwards