Photo of Dean Yhnell

Penodi artist arweiniol newydd ar gyfer y prosiect Together We Create/Creu Gyda’n Gilydd

Mae Partneriaeth y Prosiect Together We Create/Creu Gyda’n Gilydd wedi penodi Dean Yhnell fel Artist Arweiniol newydd ar gyfer y prosiect diwylliannol hwn ym mhentref Pen-rhys yn y Cymoedd. Bydd Matteo Marfoglia yn gadael ei rôl fel Artist Arweiniol ac yntau bellach wedi’i benodi’n Arweinydd Cwricwlwm newydd ar gyfer VERVE, sef cwmni ôl-radd Ysgol Dawns Gyfoes y Gogledd. Dymuna’r bartneriaeth bob lwc i Matteo yn ei rôl newydd. Yn awr, bydd Dean yn goruchwylio’r prosiect Cysylltu a Ffynnu, a chaiff y cam presennol ei ariannu gan Gyngor Celfyddydau Cymru trwy gyfrwng ei raglen Cysylltu a Ffynnu. 

Mae Dean, a elwir hefyd yn Beat Technique, yn Fît-bocsiwr, yn Gynhyrchydd Cerddoriaeth ac yn DJ proffesiynol. Mae wedi perfformio’n broffesiynol ers 2010, ac mae rhai o’i sioeau mwyaf nodedig wedi cael eu cynnal yn Glastonbury, yn Neuadd Frenhinol Albert ac yn yr O2. Mae Dean wedi bod yn gweithio’n llawn-amser yn y byd addysg ers 2013 ac mae’n enwog am ei arddull addysgu fyfyriol a diddorol. 

Medd Dean “Rydw i mor lwcus o gael rôl arweiniol mewn etifeddiaeth mor fawr a hirsefydlog y bydd pob un ohonom yn ei chreu. Rydw i’n edrych ymlaen at roi pethau ar y gweill a chychwyn gweithio ar y cyd â chymuned Pen-rhys a phartneriaid ac ymarferwyr y prosiect.” 

Yn 2016 cafodd Dean y fraint o fod yn Hyrwyddwr Celfyddyd Cymru. Hefyd, mae wedi bod yn ddylanwadol iawn o ran hyrwyddo ffyrdd newydd o addysgu gerbron Llywodraeth Cymru, ac mae rhai o’i brosiectau mwyaf llwyddiannus wedi cael eu harddangos yng Nghanolfan Mileniwm Cymru ac yn Oriel Tate, Llundain. 

Mae Together We Create/Creu Gyda’n Gilydd yn brosiect hirdymor uchelgeisiol sy’n dwyn ynghyd bartneriaid yn y celfyddydau ac mewn meysydd eraill gyda chymunedau Pen-rhys ac ardal Rhondda Cynon Taf. Nod y prosiect yw uno rhanddeiliaid lleol, ymarferwyr creadigol a’r gymuned fel y bydd modd iddynt fynd ati gyda’i gilydd i archwilio gobeithion, anghenion a dyheadau bywyd bob dydd trwy ddefnyddio’r celfyddydau fel cyfrwng hunanrymuso a newid cymdeithasol. 

Rhoddir y prosiect ar waith ar y cyd â phartneriaid yn y celfyddydau ac mewn meysydd eraill, yn cynnwys Cymdeithas Dai Trivallis, Credydau Amser Tempo, Cymunedau Digidol Cymru, Creative Lives, Rhwydwaith Cydgynhyrchu Cymru, National Theatre Wales, Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru, Hyrwyddwyr Cymunedol a Gwasanaeth Celfyddydau Rhondda Cynon Taf, Ysgol Gynradd Pen-rhys, Sparc: Plant y Cymoedd ac Eglwys Unedig Llanfair. 

“Pleser o’r mwyaf i’r panel yw penodi Dean, sy’n meddu ar yr wybodaeth a’r profiad cymunedol rydym yn chwilio amdanyn nhw. Dangosodd ei allu i gyfleu syniadau, ymgysylltu’n glir ac ymateb i’n cwestiynau.” Ann Hayes, Gwasanaeth Celfyddydau Rhondda Cynon Taf. 
 

ACW and Welsh Government Logos