Painting of a fist punching the air

Pobl ifanc yn creu ffilm ddigidol wedi'i hysbrydoli gan waith celf Artes Mundi yn seiliedig ar themâu protest a llais pobl ifanc.

Bydd ffilm ddigidol newydd Aelodau Cyswllt ifanc Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru a grëwyd gydag Artes Mundi, a phobl greadigol ar draws y sector dawns a theatr yng Nghymru, yn cael ei dangos am y tro cyntaf yn Niwrnod Dawns Digidol U Dance Cymru 2021 ac ar AM Cymru.

 

Ffilm Aelodau Cyswllt CDCCymru, 'Now Begin' yw un o'r nifer o berfformiadau y bydd pobl ifanc yn gallu gweld fel rhan o berfformiad digidol U Dance Cymru 2021 sy'n para drwy'r dydd, wedi'i drefnu gan Ddawns Genedlaethol Ieuenctid Cymru. Mae'r rhaglen hefyd yn cynnwys gweithdai gyda Ballet Cymru, Zoo Nation, Company Chameleon, Candoco Dance Company ac artistiaid dawns addawol Antony Matsena a Layton Williams.

 

Mae Aelodau Cyswllt CDCCymru yn grŵp o 18 o bobl ifanc rhwng 13-18 oed, sydd eisiau datblygu eu profiad a sgiliau dawns. Mae Aelodau Cyswllt wedi bod yn llwyfan i nifer o Aelodau Cyswllt blaenorol sydd wedi mynd ymlaen i hyfforddi yn rhai o ysgolion dawns a theatr, blaenllaw'r DU a datblygu eu gyrfaoedd mewn perfformio. Bob blwyddyn, mae'r Aelodau Cyswllt yn creu perfformiad byw gan weithio gyda choreograffwyr a phobl greadigol i gael profiad o weithio â gweithwyr proffesiynol y diwydiant.

 

Dywedodd, Guy O'Donnell, Cynhyrchydd Dysgu a Chyfranogi CDCCymru, "Roeddem yn edrych ymlaen yn arw at greu darn newydd ar y cyd ag Artes Mundi, a fyddai wedi cael ei berfformio yn arddangosfa Artes Mundi yn yr Amgueddfa Genedlaethol yng Nghaerdydd ac yn y digwyddiad Noson Dawns Ieuenctid a gynhelir yn y Tŷ Dawns bob blwyddyn. Yn ffodus, llwyddom i ddatblygu ac addasu'r perfformiad hwn ar gyfer cynulleidfaoedd ar-lein, sydd wedi arwain atom yn gweithio gyda rhai pobl greadigol gyffrous a dangosiad arbennig yn U Dance Cymru 2021."

 

Mae ffilm yr Aelodau Cyswllt, 'Now Begin' yn ddarn myfyriol wedi'i ysbrydoli gan waith cyfredol arddangosfa Artes Mundi 9 gan yr artist, Prabhakar PachputeMae'r ffilm yn dangos yr artistiaid dawns ifanc yn rhannu eu dyheadau ar gyfer newid yn y byd. Wedi'u hysbrydoli gan themâu protest ac arddangosfeydd Prabhakar Pachpute, mae'r artistiaid dawns hyn yn rhannu eu gweledigaeth ar gyfer dechreuad newydd drwy symudiad a llais.

 

Dywedodd Cyfarwyddwr Artes Mundi, Nigel Prince, "Yn Artes Mundi, rydym yn awyddus i adeiladu perthnasoedd gyda'r hyn sy'n gyfarwydd a'r hyn sy'n anghyfarwydd. Mae ein partneriaeth â dawnswyr Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru wedi bod yn bleser ac yn un ffordd yr ydym yn ceisio cyflawni hyn, gan gysylltu gwaith yn Artes Mundi 9 â sgyrsiau a ffurfiau eraill i greu ffyrdd newydd o feddwl a gweld."

 

Ar ddechrau 2021, gweithiodd yr Aelodau Cyswllt â Gundija Zandersona - Cyfarwyddwr Gweithredol, Kokoro Arts,

Krystal S. Lowe, Cyfarwyddwr Artistig, Kokoro Arts, y Dylunydd Sain sydd wedi ennill gwobr BAFTA, Tic Ashfield a'r gwneuthurwr ffilm o Gaerdydd, Gavin Porter i greu'r ffilm 5 munud o hyd sy'n cynnwys fideos byr o bob un o'r Aelodau Cyswllt yn dawnsio gartref neu yn eu cymuned.

 

Dywedodd yr Aelod Cyswllt, Heidi Thomas, "Roedd y broses greadigol hon yn wahanol a chyffrous iawn oherwydd roedd yn dangos i ni sut mae cyfleu dawns a mynegi celf mewn ffyrdd gwahanol, felly roedd yn eithaf newydd a chyffrous i fod yn rhan ohono."

 

"Buom yn cydweithio yn ogystal â gweithio'n annibynnol, drwy'r amseroedd anodd hyn rydym wedi gallu cysylltu drwy symudiad dawns," dywedodd yr Aelod Cyswllt, Ellie Gale.

 

Bydd 'Now Begin' gan Aelodau Cyswllt CDCCymru yn cael ei dangos ar ddydd Sadwrn 15 Mai fel rhan o U Dance Cymru 2021. Mae tocynnau ar gyfer y digwyddiad ar gael drwy https://www.nyaw.org.uk/udance-day-of-dance-2021

 

Bydd 'Now Begin' ar gael i'w gwylio ar AM Cymru o ddydd Sadwrn 15 Mai ac ar gael ar wefan ndcwales.co.uk ddydd Sul 30 Mai.

 

Mae Aelodau Cyswllt CDCCymru yn cyfarfod yn wythnosol yn y Tŷ Dawns yng Nghaerdydd rhwng mis Medi a mis Ebrill drwy weithdai dan arweiniad tîm o ddawnswyr CDCCymru a hyfforddwyr blaenllaw ym myd dawns. Bob blwyddyn mae'r Aelodau Cyswllt yn gweithio tuag at greu perfformiad terfynol. Mae ceisiadau nawr ar agor ar gyfer y garfan nesaf o ddawnswyr ifanc i ymgeisio. Ar hyn o bryd mae'r Aelodau Cyswllt yn cwrdd ar-lein a byddant yn dychwelyd i'r Tŷ Dawns pan fydd yn ddiogel gwneud hynny. Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau ar gyfer tymor Hydref 2021 i Wanwyn 2022 yw 4 Mehefin 2021. Ewch i www.ndcwales.co.uk am ragor o wybodaeth.